Problemau teithio

First Cymru

Oherwydd bod wyneb newydd yn cael ei roi ar y ffordd, bydd yn rhaid cau King Edward’s Road yn Brynmill dros dro o ddydd Iau 3 Rhagfyr tan ddydd Llun 7 Rhagfyr 2020 (neu nes y bydd y gwaith wedi’i gwblhau, pa un bynnag fydd gyntaf).

Disgwylir y bydd y gwaith yn digwydd ar dri diwrnod – dydd Iau 3 Rhagfyr, dydd Gwener 4 Rhagfyr a dydd Llun 7 Rhagfyr. Ni ddylai’r gwaith effeithio ar wasanaethau dydd Sadwrn 5 Rhagfyr.

Tra bydd y ffordd ar gau, bydd gwasanaeth 19 yn gweithredu ar hyd Walter Road, Uplands Crescent, Bernard Street, Rhyddings Terrace, Alexandra Terrace, Park Place, Brynmill Avenue, Marlborough Road, Rhyddings Park Road, Gwydr Crescent a Gwydr Square cyn dychwelyd i Abertawe ar hyd Uplands Crescent a Walter Road.

Ewch i wefan First Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Yn ôl