Oherwydd y sefyllfa bresennol o ran y coronafeirws a’r mesurau y mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru wedi’u cyflwyno er mwyn helpu pobl i gadw pellter cymdeithasol, maent yn parhau i weithredu gwasanaeth mwy cyfyngedig nag arfer ac nid yw rhai gwasanaethau’n aros mewn gorsafoedd lle mae’r platfform yn fyr.
Bydd gwasanaethau ar draws y rhwydwaith yn cael eu hailamseru a’u haddasu ryw ychydig, a bydd newidiadau mwy amlwg yn cael eu gwneud i’n hamserlen Llun – Sadwrn ar rwydwaith lleol Caerdydd a’r Cymoedd a rheilffordd Calon Cymru, lle mae gwasanaethau ychwanegol wedi’u cyflwyno.
Mae’r rhwydwaith rheilffyrdd yn parhau i weithredu gwasanaethau mwy cyfyngedig oherwydd cyfyngiadau sy’n ymwneud â’r coronafeirws. Os ydych yn bwriadu teithio cofiwch ymddwyn yn gyfrifol, dilyn cyngor Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ynghylch teithio’n saffach yn ystod y pandemig coronafeirws, a chynllunio ymlaen llaw.