Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd Oxford Road yn Aberpennar ar gau o 17:00 bob nos rhwng 3 Mawrth a 5 Mawrth 2021. Ni fydd gwasanaethau 60, 61 a 95 yn gallu gwasanaethu Fernhill ac Abercwmboi.

Bydd gwasanaeth 61 yn teithio drwy Aberaman ac yna’n cael ei ddargyfeirio ar hyd y ffordd osgoi, sef yr A4059, hyd at y Ffordd Gyswllt newydd ar draws y Cwm ac yna’n ôl i Orsaf Drenau Aberpennar cyn parhau â’i daith.

Bydd gwasanaeth 60 hefyd yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A4059 hyd at y Ffordd Gyswllt newydd ar draws y Cwm ac yna’n ôl i Orsaf Drenau Aberpennar cyn parhau â’i daith.

Bydd y ddau wasanaeth uchod yn gwasanaethu Gorsaf Drenau Aberpennar i gyfeiriad canol y dref, ac yna’n defnyddio’r Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm a’r A4059 er mwyn ailddechrau gweithredu yn Aberaman (yn achos gwasanaeth 61) ac Asda (yn achos gwasanaeth 60).

Bydd gwasanaeth 95A yn gwasanaethu Ysbyty Cwm Cynon cyn teithio i Orsaf Drenau Aberpennar ar hyd y Ffordd Gyswllt newydd ar draws y Cwm. Yna, bydd yn teithio drwy Benrhiw-ceibr ac yn gorffen ei daith yn Nherminws Perthcelyn. Bydd y daith yn ôl yn dilyn yr un llwybr i’r cyfeiriad arall.

Bydd bws gwennol Davies Coaches yn gweithredu rhwng Abercwmboi, Fernhill ac Aberdâr.

Yn ôl