Problemau teithio

First Cymru

*Yn ogystal, am 3 diwrnod o 18:00 nos Wener 30 Ebrill ymlaen, bydd Heol Alexandra ar gau i’r ddau gyfeiriad.

Rhwng 30 Ebrill a 2 Mai, bydd gofyn hefyd i bob gwasanaeth sy’n teithio i mewn i ganol y ddinas gael eu dargyfeirio drwy Ddyfaty a pharhau â’u taith o Stryd y Berllan.*

Er mwyn gallu cysylltu carthffosydd ar safle datblygu Mariner Street, bydd yn rhaid cau Heol Alexandra, Abertawe dros dro i gerbydau.

Bydd y ffordd ar gau am 3 wythnos, o ddydd Llun 19 Ebrill 2021 ymlaen. Bydd hynny’n effeithio yn uniongyrchol ar wasanaethau 4, 8, 10, X6, X11 ac X13.

Yn ystod y cyfnod dan sylw, bydd gofyn i wasanaethau 4, X6, X11 ac X13 o gyfeiriad canol y ddinas yn unig weithredu drwy Sgwâr y Santes Fair ac ar hyd y Stryd Fawr.

Bydd gofyn i wasanaethau 8 a 10 weithredu ar hyd Ffordd y Brenin a thrwy Ddyfaty – heb stopio wrth Orsaf y Stryd Fawr i gyfeiriad Campws y Bae yn unig.

Ni fydd cau’r ffordd yn effeithio ar deithiau i gyfeiriad canol y ddinas.

Yn ôl