Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd rhan isaf Heol Eglwys Fair ar gau rhwng 21:00 ac amser y bws olaf nos Wener 7 Mai a nos Sadwrn 8 Mai er mwyn diogelu torfeydd.

Bydd bysiau 8/9/9A, 11, 28B, 44/45, 49/50, 57/58, 92 a 94 yn dilyn llwybrau gwahanol yng nghanol y ddinas ac yn stopio wrth arosfannau gwahanol, fel a ganlyn:

Gwasanaethau 8/9/9A i gyfeiriad Bae Caerdydd a’r Pentref Chwaraeon

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol i Heol Casnewydd ac yna’n teithio ar hyd Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Heol y Castell a Heol y Porth.

Ni fyddant yn gwasanaethu arhosfan bysiau JL yn Heol y Tollty. Dylech fynd i arhosfan KG yn Heol y Porth (gyferbyn â siop Undeb Rygbi Cymru) yn lle hynny.

Gwasanaethau 8/9 i gyfeiriad Ysbyty’r Waun

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol i gyffordd Heol Penarth a Clare Road, yna’n teithio ar hyd Heol Penarth, Sgwâr Callaghan a Phont Bute Street i Bute Terrace, ac yna’n ailymuno â’u llwybr arferol ar hyd Ffordd Churchill.

Ni fyddant yn gwasanaethu arosfannau bysiau Clare Road, Stryd Tudor ac Arcêd Wyndham. Dylech ddefnyddio’r arosfannau yn Heol Penarth neu Bute Terrace (y tu ôl i John Lewis) yn lle hynny.

Gwasanaethau 11 a 28B

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol i Heol Casnewydd ac yna’n teithio ar hyd Rhodfa’r Orsaf (Gorsaf Heol y Frenhines), rhan isaf Ffordd Churchill a Bute Terrace i Heol Pont-yr-Aes.

Ni fyddant yn gwasanaethu arosfannau bysiau Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin, Heol y Porth ac Arcêd Wyndham. Dylech fynd i arhosfan Heol Pont-yr-Aes (wrth ymyl John Lewis) yn lle hynny.

Gwasanaethau 44/45 a 49/50

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol ar hyd Heol Casnewydd ac yna’n teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Rhodfa’r Orsaf (Gorsaf Heol y Frenhines), Bute Terrace a Sgwâr Callaghan i Bute Terrace.

Ni fyddant yn gwasanaethu arosfannau bysiau Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin, Heol y Castell a’r Royal Hotel. Dylech fynd i’r arhosfan ar Bute Terrace (y tu ôl i John Lewis) yn lle hynny.

Gwasanaethau 57/58

Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol i Heol Casnewydd ac yna’n teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Rhodfa’r Orsaf (Gorsaf Heol y Frenhines), Bute Terrace a Sgwâr Callaghan i Heol y Tollty.

Ni fyddant yn gwasanaethu arosfannau bysiau Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin, Stryd y Cei a’r Royal Hotel. Dylech fynd i Heol y Tollty (arhosfan JG) yn lle hynny.

 

NAT Group

The purple line shows the diversion route in BOTH directions, the X1 will not be serving any stops on the red line. 

Yn ôl