Problemau teithio

Gwasanaeth ‘rail linc 901’ (o Orsaf Ystrad Mynach i Goed-duon), a weithredir gan New Adventure Travel, yw’r gwasanaeth pwrpasol, cyflym a chyfleus sy’n cysylltu Gorsaf Ystrad Mynach â Choed-duon, Pontllan-fraith a Maesycwmer.

Mae’n gweithredu yn lle gwasanaeth trên rhwng Gorsaf Ystrad Mynach a Choed-duon, felly dim ond teithwyr trenau sy’n cael ei ddefnyddio.

Mae’r amserlen wedi’i llunio fel bod y gwasanaeth yn cwrdd â’r trên a bod y rhan fwyaf o deithiau rhwng Coed-duon a Chaerdydd yn cymryd llai nag awr.

Ewch ar y bws, prynwch eich tocyn gan yrrwr y gwasanaeth ‘rail linc’ a defnyddiwch ef ar y trên. Neu, os ydych yn dechrau eich taith ar y trên, gofynnwch am y gwasanaeth ‘rail linc’ i Goed-duon.

Yn ôl