Adventure Travel
Oherwydd gwaith hanfodol i adnewyddu dec pont, sy’n digwydd ar Gylchfan Aberdulais o ddydd Sul 23 Mai tan ddydd Sadwrn 26 Mehefin, bydd gwasanaethau T6, T6X a 64 yn gweithredu amserlenni sydd wedi’u haddasu.
Y rheswm am hynny yw cyfres o drefniadau i gau ffyrdd a chau lonydd, a fydd yn cael eu cyflwyno ar y system gylchu ac a fydd yn arwain at ddargyfeiriadau lleol.
Bydd gwasanaeth T6 i Abertawe yn dilyn llwybr dargyfeirio na fydd yn effeithio ar ei fannau aros.
Bydd y newidiadau i amserlenni ar waith o ddydd Sul 23 Mai tan 26 Mehefin. Nodwch y gallai’r amserlenni diwygiedig newid wrth i’r gwaith fynd rhagddo.
Mae’r amserlenni diwygiedig ar gyfer y gwasanaethau canlynol i’w gweld isod: