Problemau teithio

First Cymru

Er mwyn i waith gael ei gyflawni ar fast telathrebu, bydd yn rhaid cau Pentregethin Road dros dro ar gyfer traffig o gyfeiriad canol y ddinas.

Bydd y ffordd ar gau o ddydd Llun 21 Mehefin ymlaen am oddeutu pythefnos (tan 5 Gorffennaf).

Yn ystod y cyfnod dan sylw, bydd gwasanaethau sy’n teithio ar hyd Pentregethin Road o ganol dinas Abertawe yn cael eu dargyfeirio.

Bydd gwasanaeth 28 o gyfeiriad canol y ddinas yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Manselton Road.

Bydd angen i wasanaethau 110 a 111 o gyfeiriad canol y ddinas deithio ar hyd Carmarthen Road a throi i’r dde wrth ymyl tafarn y Mile End er mwyn ailddechrau gweithredu o arhosfan bysiau Gendros Crescent (NW).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan First Cymru.

Yn ôl