Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd Heol y Crwys, Caerdydd ar gau i’r ddau gyfeiriad rhwng yr amserau canlynol ar y dyddiadau canlynol er mwyn rhoi wyneb newydd ar y ffordd a gosod llwyfannau arafu arni:

  • Rhwng 0800 a 2000 ddydd Sul 25 Gorffennaf
  • Rhwng 0800 a 2000 ddydd Sul 1 Awst
  • Rhwng 0800 a 2100 ddydd Sul 8 Awst
  • Rhwng 0800 a 2000 ddydd Sul 15 Awst

Bydd gwasanaethau 8 a 9 yn cael eu dargyfeirio rhwng Ffordd Churchill ac Ysgol Gladstone/Llyfrgell Cathays ar hyd Plas Dumfries, Plas-y-Parc a Cathays Terrace i’r ddau gyfeiriad. Ni fydd gwasanaethau 8 a 9 yn gallu gwasanaethu’r arosfannau bysiau sydd ar hyd Heol Casnewydd, Heol y Plwca a Heol y Crwys.

Bydd angen i gwsmeriaid sydd am deithio o Fae Caerdydd a Grangetown i Heol y Plwca neu ben isaf Heol y Crwys newid bysiau yn Ffordd Churchill a defnyddio gwasanaethau 52, 57/58 i Heol Albany neu ddefnyddio gwasanaeth 28B o Rodfa’r Orsaf i Heol Albany. Bydd angen i gwsmeriaid sydd am deithio i ben uchaf Heol y Crwys aros ar fws gwasanaeth 8/9 wrth iddo gael ei ddargyfeirio, a dod oddi ar y bws wrth ymyl Ysgol Gladstone.

Bydd angen i gwsmeriaid sydd am deithio o Heol y Crwys a Heol y Plwca i Grangetown a Bae Caerdydd ddal gwasanaethau 28B, 52, 57 neu 58 o Heol Albany, Heol Richmond neu West Grove a newid bysiau yng nghanol y ddinas er mwyn defnyddio gwasanaethau 8 a 9 o Heol y Tollty.

Bydd angen i gwsmeriaid a fyddai fel arfer yn dal bws/yn dod oddi ar fws ar hyd Heol Casnewydd, Heol y Plwca neu Heol y Crwys ddefnyddio’r arosfannau bysiau wrth ymyl Llyfrgell Cathays (Heol yr Eglwys Newydd) ar gyfer gwasanaethau 8 neu 9; neu ddefnyddio’r arosfannau ar Heol Albany, Heol Richmond neu West Grove a defnyddio gwasanaethau 28B, 52, 57/58 fel dewis amgen.

Yn ôl