Nodwch y bydd cyfres o ffyrdd yn cael eu cau yn eu tro yng Ngheredigion ar gyfer Ras Feicio ‘Tour of Britain’ ddydd Mercher 8 Medi 2021 er mwyn diogelu’r cyhoedd. Gallai hynny darfu ar wasanaethau bws yn yr ardal.
Dyma’r ffyrdd yr effeithir arnynt yng Ngheredigion:
- Yr A487 Aberaeron-Aberystwyth.
- Ffordd Alexandra a Ffordd y Môr, Aberystwyth.
- Yr A487 rhwng Rhodfa’r Gogledd, Aberystwyth a Rhydypennau, y B4353 i’r Borth, Ynys-las, Llangynfelyn a Thre'r-ddôl.
- Yr A487 i’r gogledd o Dre’r-ddôl hyd at y ffin sirol â Phowys.
Dylech nodi bod disgwyl i’r trefniadau ar gyfer cau ffyrdd yn eu tro achosi peth oedi i’r gwasanaethau canlynol drwy gydol y dydd:
- Gwasanaeth 19 Llandudno i Fetws-y-coed
- Gwasanaeth T19
- Gwasanaeth T2 Porthmadog i Aberystwyth
- Gwasanaeth X28 Machynlleth i Aberystwyth
- Gwasanaeth 39 Porthmadog i Ddolgellau drwy Harlech
- Gwasanaethau T1 a T5 Aberystwyth i Aberaeron
- Gwasanaeth 585 Aberystwyth i Dregaron
- Gwasanaeth 512 Y Borth i Aberystwyth.