Problemau teithio

Oherwydd prinder gyrwyr, bydd TrawsCymru/First Cymru yn lleihau nifer y teithiau ar wasanaeth T1 dros dro o ddydd Mawrth 31 Awst ymlaen. Caiff y sefyllfa ei hadolygu bob pythefnos.

Dyma’r teithiau T1 na fyddant yn gweithredu o ddydd Mawrth 31 Awst ymlaen:

Dydd Llun i Ddydd Sadwrn

  • O Gaerfyrddin i Aberystwyth: 10:05, 12:05 a 17:05
  • O Aberystwyth i Gaerfyrddin: 07:40, 12:40 a 14:40

Ni fydd amserau dydd Sul yn newid.

Mae ein tîm data yn gweithio i ddiweddaru’r wybodaeth hon ar ein Cynlluniwr Taith a’n tudalen Amserlenni cyn gynted ag sy’n bosibl.

 

GELLIR GWELD YR AMSERLEN DROS DRO YMA.

 

Er gwybodaeth:

Nid oes teithiau amgen ar gael i’r de o Aberaeron. Rhwng Aberystwyth ac Aberaeron, mae gwasanaeth T5 ar gael fel a ganlyn:

  • Teithiau T5 amgen o Aberystwyth i Aberaeron – 07:30, 13:10, 15:10
  • Teithiau T5 amgen o Aberaeron i Aberystwyth – 11:18, 13:18, 18:54
Yn ôl