Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

Oherwydd bod gwaith ffordd yn mynd rhagddo yn y ddinas, mae Stagecoach yn Ne Cymru yn newid y mannau lle bydd rhai o’i wasanaethau bws yn dechrau/gorffen yng Nghaerdydd, fel eu bod yn fwy dibynadwy.

  • O ddydd Sadwrn 2 Hydref ymlaen, bydd gwasanaethau T4 ac X4 yn dechrau ac yn gorffen wrth arhosfan GJ yn Heol y Brodyr Llwydion.
  • O ddydd Llun 4 Hydref ymlaen, bydd gwasanaeth 132 yn dechrau ac yn gorffen wrth arhosfan GF yn Heol y Brodyr Llwydion.

Bydd yr amserau i gyd yn aros yr un fath.

Yn ôl