Problemau teithio

Bws Caerdydd

O ddydd Llun 11 Hydref ymlaen am oddeutu 6 – 7 wythnos, bydd system unffordd ar waith yn Park Crescent yn y Barri, o Colcot i gyfeiriad y de.

  • Bydd gwasanaethau 96 / 96A i gyfeiriad Caerdydd yn dilyn eu llwybr arferol i gylchfan Broad Street / Pont Gladstone, ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Gladstone Road, Buttrills Road, Barry Road a Colcot Road cyn ailymuno â’u llwybr arferol.
  • Bydd gwasanaeth 97 i gyfeiriad Colcot a gwasanaeth 100 i gyfeiriad Highlight Park yn dilyn eu llwybr arferol i’r system gylchu wrth ymyl Gwesty’r Ship, yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Park Avenue, Broad Street, Gladstone Road, Buttrills Road, Barry Road a Colcot Road cyn ailymuno â’u llwybr arferol.

 

Adventure Travel

NAT-304-Barry-Diversion-October-2021.jpg

 

Yn ôl