Problemau teithio

Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru

Gwelliannau arfaethedig

Bydd rhai gwasanaethau bws yn gweithredu yn lle gwasanaethau trên yn ystod y misoedd nesaf oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol a fydd yn digwydd ar rwydwaith rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

Mae’n bosibl y bydd rhai teithiau a wneir yn hwyr yn y nos ac yn gynnar yn y bore yn newid hefyd, nad yw eu manylion wedi’u cynnwys yn y wybodaeth a nodir. Pryd bynnag y bo modd, bwriedir i’r gwaith cynnal a chadw achosi cyn lleied ag sy’n bosibl o broblemau i gwsmeriaid.

Problemau teithio byr rybudd

Ar gyfer problemau teithio ar y diwrnod, a allai darfu ar wasanaethau, caiff cwsmeriaid eu hannog i ddefnyddio adnodd Gwirio Taith Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru cyn iddynt deithio.

Yma, gallwch weld y wybodaeth ddiweddaraf am reilffyrdd, y wybodaeth ddiweddaraf am orsafoedd, manylion trenau sydd wedi’u canslo ar fyr rybudd neu fanylion unrhyw oedi, a gwybodaeth ddefnyddiol arall am broblemau a allai effeithio ar eich taith.

Yn ôl