Great Western Railway
Ar hyn o bryd, mae Great Western Railway yn gweithredu gwasanaethau trên diwygiedig ar draws ei rwydwaith.
Gwelliannau arfaethedig
Mae’n bosibl weithiau y bydd yn rhaid i’r cwmni newid amserlenni ar fyr rybudd, felly dylech wirio manylion eich taith mor agos ag sy’n bosibl i’r dyddiad y byddwch yn teithio.
Os bydd yr amserlenni’n newid ar ôl i chi brynu tocyn, gallwch naill ai ddefnyddio unrhyw wasanaeth amgen rhesymol neu hawlio ad-daliad llawn.
Gallwch weld trosolwg o’r gwelliannau arfaethedig a manylion y mannau lle bydd bysiau’n gweithredu yn lle trenau ar wefan Great Western Railway.
Problemau teithio byr rybudd
Ar gyfer problemau teithio ar y diwrnod, a allai darfu ar wasanaethau, caiff cwsmeriaid eu hannog i ddefnyddio adnodd Gwirio Taith Great Western Railway a’i dudalen Diweddariadau Byw am y Rhwydwaith cyn iddynt deithio.
Yma, gallwch weld y wybodaeth ddiweddaraf am reilffyrdd, y wybodaeth ddiweddaraf am orsafoedd, manylion trenau sydd wedi’u canslo ar fyr rybudd neu fanylion unrhyw oedi, a gwybodaeth ddefnyddiol arall am broblemau a allai effeithio ar eich taith.