Stagecoach yn Ne Cymru
Bydd yr A465 rhwng Gilwern a Bryn-mawr ar gau ddydd Sadwrn 16 Hydref oherwydd bod ffordd ddeuol yn cael ei hadeiladu.
- Amserlen arbennig gwasanaeth X4: Bydd yr amserlen hon ar waith ac mae’n bosibl y bydd angen i deithwyr newid bysiau, gan mai bysiau bach fydd yn teithio rhwng Bryn-mawr a’r Fenni.
- Ni fydd gwasanaeth 3 Bryn-mawr i’r Fenni yn gweithredu, ond bydd bws mini bach yn cael ei ddarparu yn ei le gan y contractwr. Bydd yn golygu dargyfeiriad hir ac mae’n bosibl y bydd angen i chi ddechrau eich taith yn gynt. At hynny, ni fydd y gwasanaeth yn gallu gwasanaethu arhosfan Trafalgar House ym Mryn-mawr. Dylai teithwyr sydd am ddefnyddio’r arhosfan hwnnw ddefnyddio gorsaf fysiau Bryn-mawr.