Cliciwch yma i weld manylion y ffyrdd a fydd ar gau drwy gydol y dydd.
First Cymru
Ddydd Sul 17 Hydref, bydd llawer o broblemau teithio yn ardal Abertawe oherwydd Hanner Marathon Abertawe.
Mae First Cymru yn disgwyl y bydd yna lawer o geir a cherddwyr. Rhagwelir y bydd y ffyrdd i gyd ar agor erbyn 11am.
- Bydd Gorsaf Fysiau Abertawe ar gau tan 11am.
- Ni fydd gwasanaethau Abertawe – Y Mwmbwls yn gweithredu tan 11am (gwasanaethau 2A, 3A).
- Gwasanaethau 6, 16, 25, 28, 31, 110, 111, X13:Bydd angen i’r gwasanaethau hyn weithredu ar hyd y Stryd Fawr a Sgwâr y Santes Fair i’r ddau gyfeiriad. Gan fod Gorsaf Fysiau Abertawe ar gau, bydd y bysiau’n gorffen ac yn dechrau eu taith yma.
- Gwasanaethau 12, 20, 21A:Bydd angen i’r bysiau orffen eu taith yn Stryd
- Gwasanaethau 8, 10:Bydd gwasanaeth 10 yn gweithredu’n ôl yr arfer. Bydd angen i wasanaeth 8 weithredu yn yr un modd â gwasanaeth 10 rhwng canol y ddinas a Champws Singleton.
- Gwasanaethau 31, 6:Bydd angen i’r gwasanaethau hyn gael eu dargyfeirio ar hyd Heol New Cut i’r ddau gyfeiriad nes y bydd y ffyrdd yn cael eu hailagor.
- Gwasanaeth X6:Bydd y bysiau’n gorffen eu taith wrth arhosfan bysiau’r Odeon yn Ffordd y Brenin, a byddant yn aros yno nes y bydd yn bryd iddynt ddechrau eu taith o gyfeiriad canol y ddinas.
- Bydd yn rhaid i wasanaethau o’r dwyrain orffen eu taith yn SA1 yn Ffordd Fabian nes y bydd y ffyrdd yn cael eu hailagor.
Adventure Travel
Gwasanaeth T6
Ni fydd bws cyntaf gwasanaeth T6 yn gallu gadael Abertawe, a bydd man cychwyn yr ail fws yn newid. Dyma’r bysiau y bydd y digwyddiad yn effeithio arnynt:
- Bws 09:05 – Abertawe – Aberhonddu – Bydd y bws yn dechrau yng Nghastell-nedd (ni fydd bws rhwng Abertawe a Chastell-nedd)
- Bws 11:05– Abertawe – Aberhonddu – Bydd y bws yn dechrau o Sgwâr y Santes Fair.
Bydd bws 13:05 yn ymadael fel arfer o’r orsaf fysiau, ond gallai fod yna broblemau teithio mawr drwy gydol y dydd.
Gwasanaeth 14
Bydd y bysiau canlynol yn y bore o Abertawe yn cael eu dargyfeirio:
- Bws 0930– Abertawe i Bennard – Bydd y bws yn dechrau yn Belgrave Court (Uplands)
- Bws 1130 – Abertawe i Bennard – Bydd y bws yn dechrau yn yr orsaf fysiau
Dyma lwybr y dargyfeiriad ar gyfer bysiau o gyfeiriad ac i gyfeiriad canol y ddinas: Stryd Christina, Uplands Crescent, Sketty Rd, Gower Road, yr A4118 (heibio’r maes awyr), Vennaway Lane, Pennard Lane, Northway, ac yna’r llwybr arferol. Bydd bysiau 0930 a 1130 yn dilyn y llwybr hwn.