Problemau teithio

Bws Caerdydd

O ddydd Sadwrn 16 Hydref ymlaen, er mwyn helpu i sicrhau bod bysiau’n glynu wrth eu hamserlen, bydd bysiau gwasanaeth 30 o Gaerdydd i Gasnewydd ar ddydd Sadwrn yn gadael canol y ddinas o Heol y Tollty, ac yna’n teithio ar hyd Rhodfa Bute a Rhodfa’r Orsaf yn lle Heol y Brodyr Llwydion a Phlas Dumfries.

Bydd y dargyfeiriad hwn ar waith tan ddiwedd mis Rhagfyr.

  • Ni fydd yr arosfannau bysiau yn Heol y Brodyr Llwydion a Phlas Dumfries yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arhosfan yn Rhodfa’r Orsaf (HW) a’r arhosfan dros dro yn Heol Casnewydd (rhwng West Grove a Heol y Plwca) yn lle hynny.

Nodwch y bydd bysiau gwasanaeth 30 yn dilyn eu llwybr arferol ar hyd Heol y Brodyr Llwydion a Phlas Dumfries o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar ddydd Sul.

Yn ôl