Problemau teithio

Bws Caerdydd

Yn rhan o’r gwaith adfywio sy’n parhau yn Stryd Tudor a Glanyrafon, bydd Stryd Tudor yn troi’n stryd unffordd i gyfeiriad y gorllewin, o bont Stryd Wood i gyfeiriad Heol Parc Ninian, o 09:00 ddydd Llun 2 Awst nes y clywir yn wahanol.

Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn teithio ar hyd Stryd Clare, Dispenser Street ac Arglawdd Fitzhamon, sy’n golygu y bydd arosfannau Beauchamp Street ac Arglawdd Fitzhamon (yn Stryd Tudor) ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas ar gau. Yr arosfannau amgen agosaf ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas fydd Heol Clare (One Stop Shop), Brunel Street (Heol Parc Ninian) neu Dispenser Street.

Bydd pob un o fysiau gwasanaethau 4, 7, 8, 9, 9A, 92, 93, 94, 95 ac X45 sy’n gadael canol y ddinas ar hyd system unffordd Stryd Tudor yn aros wrth ymyl y gysgodfan olaf ar Stryd Tudor, wrth ymyl y gyffordd â Heol Clare a Heol Parc Ninian.

Yn ôl