Problemau teithio

Bws Caerdydd, Trafnidiaeth Cymru

Byddwn yn rhoi diweddariadau perthnasol am broblemau teithio, ar gyfer y digwyddiadau sydd ar ddod yn Stadiwm Principality, ar y dudalen hon wrth i ni eu cael gan weithredwyr.

 

Ed Sheeran

 

Dydd Iau 26 Mai

Dydd Gwener 27 Mai

Dydd Sadwrn 28 Mai

Stereophonics a Tom Jones

 

Dydd Gwener 17 Mehefin

Dydd Sadwrn 18 Mehefin

 

Rammstein

 

Dydd Iau 30 Mehefin

 

 

 

 

Bws Caerdydd

 

Yn ystod digwyddiadau mawr yn Stadiwm Principality, bydd y ffyrdd cyfagos yn cael eu cau a bydd bysiau’n defnyddio arosfannau gwahanol yng nghanol y ddinas.

Sgroliwch i lawr i’r tabl sy’n dangos ble y bydd pob gwasanaeth yn dechrau ac yn gorffen pan fydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau (h.y. pan fydd Heol y Porth, Stryd Wood, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Stryd y Castell a Stryd y Dug ar gau i draffig).

Oherwydd y cynllun adfywio sy’n mynd rhagddo ar gyfer Stryd Tudor, bydd bysiau i gyfeiriad y gorllewin yn dechrau ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon ar ddiwrnodau digwyddiadau, nes y clywch yn wahanol.

*Ni fydd gwasanaeth X59 (Gwasanaeth Parcio a Theithio’r Dwyrain ym Mhentwyn) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Parcio a Theithio adeg digwyddiadau, a bydd y safle’n cael ei gloi ar ôl amser y bws olaf.* 

Digwyddiadau sydd ar ddod:

Digwyddiad

Dyddiad

Amserau dargyfeiriadau

Cyngerdd Ed Sheeran

Dydd Iau 26 Mai

Rhwng 16:30 ac amser y bws olaf

Cyngerdd Ed Sheeran

Dydd Gwener 27 Mai

Rhwng 16:30 ac amser y bws olaf

Cyngerdd Ed Sheeran
a My Chemical Romance

Dydd Sadwrn 28 Mai

Rhwng 14:00 ac amser y bws olaf

Cyngerdd Stereophonics a Tom Jones

Dydd Gwener 17 Mehefin

I’w cyhoeddi

Cyngerdd Stereophonics a Tom Jones

Dydd Sadwrn 18 Mehefin

I’w cyhoeddi

Cyngerdd Rammstein

Dydd Iau 30 Mehefin

I’w cyhoeddi

 

Dargyfeiriadau Digwyddiadau Stadiwm Principality

Rhif y llwybr

Man gorffen yng nghanol y ddinas

1 a 2*

Canal Street. Ni fydd arosfannau JM a JN wrth yr Orsaf Ganolog yn cael eu gwasanaethu.

5

Canal Street

6 (baycar)*

Heol y Tollty (arhosfan JG). Ni fydd arosfannau JM a JN wrth yr Orsaf Ganolog yn cael eu gwasanaethu.

7

Canal Street

8 a 9 i Fae Caerdydd neu’r Pentref Chwaraeon

Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH)

  • Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn dilyn eu llwybr arferol i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth/Heol Clare, yna’n teithio ar hyd Heol Penarth, Sgwâr Callaghan, rhan isaf Heol Eglwys Fair, Lôn y Felin a Canal Street, ac yn gorffen eu taith yn Heol Pont-yr-Aes. I ddal bysiau cysylltiol i gyfeiriad Ysbyty’r Waun, ewch i Ffordd Churchill. Ni fydd arosfannau bysiau Heol Clare, Arglawdd Fitzhamon, Stryd Wood, Arcêd Wyndham a Rhodfa Bute yn cael eu gwasanaethu.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad Bae Caerdydd neu’r Pentref Chwaraeon yn teithio o ganol y ddinas i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth/Heol Clare ar hyd Sgwâr Callaghan a Heol Penarth. Ni fydd arosfannau bysiau’r Philharmonic, Stryd Tudor a Heol Clare yn cael eu gwasanaethu.

8 a 9 i Ysbyty’r Waun

Ffordd Churchill

  • Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn gorffen eu taith yn Ffordd Churchill. I ddal bysiau cysylltiol i gyfeiriad Bae Caerdydd a’r Pentref Chwaraeon, ewch i Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH) wrth ymyl John Lewis. 
  • Bydd bysiau i gyfeiriad Ysbyty’r Waun yn dechrau eu taith o Ffordd Churchill ac yna’n dilyn eu llwybr arferol.

11

Ffordd Churchill (arhosfan HL)

  • Ni fydd gwasanaeth 11 yn gwasanaethu’r arhosfan bysiau yn Heol Pont-yr-Aes.

13

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad Treganna a’r Ddrôp yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville. Ni fydd arosfannau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

15

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad Treganna a Threlái yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville. Ni fydd arosfannau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

17 ac 18

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad Treganna a Threlái yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville. Ni fydd arosfannau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

21, 23 a 24

Heol y Brodyr Llwydion (arhosfan GN) (yr ochr ddeheuol)

  • Bydd gwasanaethau 21 a 23 yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Heol Colum a Phlas-y-Parc, ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. Ni fydd arosfannau bysiau Ffordd y Brenin a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.
  • Bydd gwasanaeth 24 i gyfeiriad canol y ddinas yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd rhan isaf Heol y Gadeirlan a Despenser Street, ac yn gorffen ei daith wrth Arglawdd Fitzhamon. Ni fydd arosfannau bysiau Ffordd y Brenin a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.

25

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Heol Colum a Phlas-y-Parc, ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion. Ni fydd arosfannau bysiau Ffordd y Brenin a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.
  • Bydd bysiau’n gadael y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a rhan isaf Heol y Gadeirlan. Ni fydd arosfannau Heol y Porth a Phont Caerdydd ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu yn Heol y Gadeirlan yn lle hynny.

27

Ffordd y Brenin (arhosfan dros dro gyferbyn â Gerddi’r Brodordy)

  • Ni fydd arosfannau Ffordd y Brenin (ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas) a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.

28, 28A a 28B

Ffordd y Brenin (arhosfan dros dro gyferbyn â Gerddi’r Brodordy)

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Plas Dumfries, Stuttgarter Strasse a Heol y Brodyr Llwydion, ac yn gorffen eu taith yn Ffordd y Brenin.
  • Ni fydd arosfannau bysiau Rhodfa’r Orsaf, rhan isaf Ffordd Churchill a Heol Pont-yr-Aes yn cael eu gwasanaethu.

30

Ffordd y Brenin (arhosfan dros dro gyferbyn â Gerddi’r Brodordy)

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Plas Dumfries, Stuttgarter Strasse a Heol y Brodyr Llwydion, ac yn gorffen eu taith yn Ffordd y Brenin.
  • Ni fydd arosfannau bysiau Rhodfa’r Orsaf, rhan isaf Ffordd Churchill a Heol y Tollty yn cael eu gwasanaethu.

35

Heol y Brodyr Llwydion (arhosfan GN) (yr ochr ddeheuol)

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Heol Colum a Phlas-y-Parc, ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion.
  • Bydd bysiau’n dechrau eu taith o Heol y Brodyr Llwydion (arhosfan GN). Ni fydd arosfannau bysiau Ffordd y Brenin, Heol y Porth, Arcêd Wyndham, Rhodfa Bute a David Street yn cael eu gwasanaethu.

44 a 45

Ffordd Churchill (arhosfan HM)

  • Ni fydd arosfannau bysiau Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin, Stryd y Castell, Arcêd Wyndham a Rhodfa Bute yn cael eu gwasanaethu.

49 a 50

Ffordd Churchill (arhosfan HL)

  • Ni fydd arosfannau bysiau Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin, Stryd y Castell, Arcêd Wyndham a Rhodfa Bute yn cael eu gwasanaethu.

51

Heol y Brodyr Llwydion (dim newid i’r arosfannau na’r llwybr)

52

Ffordd Churchill (arhosfan HN)

  • Ni fydd arosfannau bysiau Heol y Tollty (arhosfan JG) na David Street yn cael eu gwasanaethu.

53

Heol y Brodyr Llwydion (dim newid i’r arosfannau na’r llwybr)

57 a 58

Ffordd Churchill (arhosfan HN)

  • Ni fydd yr arhosfan bysiau yn Heol y Tollty (arhosfan JG) yn cael ei wasanaethu.

61 

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad Pentre-baen yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville. Ni fydd arosfannau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

62, 63 a 63A

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd rhan isaf Heol y Gadeirlan a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Bydd bysiau yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville.
  • Ni fydd arosfannau bysiau Heol y Porth a Phont Caerdydd yn cael eu gwasanaethu.

64

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad Pentre-baen yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville.
  • Ni fydd arosfannau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant ar gyfer bysiau o gyfeiriad canol y ddinas yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

66

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad y Tyllgoed yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville.
  • Ni fydd arosfannau bysiau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

92, 92B, 93, 94 a 94B

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn dechrau/gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Ni fydd arosfannau bysiau Stryd Wood, Arcêd Wyndham a’r Philharmonic yn cael eu gwasanaethu.

95 i’r Barri

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn dechrau/gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Ni fydd arosfannau bysiau Stryd Wood, Arcêd Wyndham a’r Philharmonic yn cael eu gwasanaethu.

95 i Ysbyty’r Waun

Heol y Brodyr Llwydion

  • Bydd bysiau yn dechrau/gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion, ac ni fyddant yn gwasanaethu arosfannau Heol y Porth, Ffordd y Brenin na’r Philharmonic.
  • I ddal bysiau cysylltiol i gyfeiriad Dinas Powys a’r Barri, ewch i Arglawdd Fitzhamon.

96 a 96A

Arglawdd Fitzhamon

  • Bydd bysiau yn teithio i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville a Despenser Street, ac yn gorffen eu taith wrth Arglawdd Fitzhamon.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad y Barri yn dechrau eu taith o Arglawdd Fitzhamon ac yn gadael canol y ddinas ar hyd Stryd Tudor, Stryd Clare a Stryd Neville.
  • Ni fydd arosfannau bysiau Heol y Porth, Pont Caerdydd ac Ysbyty Dewi Sant yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau wrth Arglawdd Fitzhamon neu ar dop Stryd Neville yn lle hynny.

X45 i gyfeiriad Llaneirwg

Ffordd Churchill

  • Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn gorffen eu taith yn Ffordd Churchill. I ddal bysiau cysylltiol i gyfeiriad y Pentref Chwaraeon, ewch i Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH) wrth ymyl John Lewis. 
  • Bydd bysiau i gyfeiriad Llaneirwg yn dechrau eu taith o Ffordd Churchill ac yna’n dilyn eu llwybr arferol.

X45 i gyfeiriad Parc Manwerthu Bae Caerdydd

Heol Pont-yr-Aes (arhosfan JH)

  • Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas yn dilyn eu llwybr arferol i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth, yna’n teithio ar hyd Heol Penarth, Sgwâr Callaghan, rhan isaf Heol Eglwys Fair, Lôn y Felin a Canal Street, ac yn gorffen eu taith yn Heol Pont-yr-Aes. I ddal bysiau cysylltiol i gyfeiriad Llaneirwg, ewch i Ffordd Churchill. Ni fydd arosfannau bysiau Heol Clare, Arglawdd Fitzhamon, Stryd Wood, Arcêd Wyndham a Rhodfa Bute yn cael eu gwasanaethu.
  • Bydd bysiau i gyfeiriad y Pentref Chwaraeon yn teithio o ganol y ddinas i gyffordd Heol Penarth/Heol y Gorfforaeth ar hyd Sgwâr Callaghan a Heol Penarth. Ni fydd arosfannau bysiau’r Philharmonic, Stryd Tudor a Heol Clare yn cael eu gwasanaethu.

X59

Plas Dumfries (arhosfan HD) (dim newid i’r arosfannau na’r llwybr)

 

*Ar ddiwrnodau digwyddiadau, ni fydd gwasanaethau 1 a 2 yn gwasanaethu tu cefn yr Orsaf Ganolog (arosfannau JM a JN) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.

 

*Ar ddiwrnodau digwyddiadau, bydd gwasanaeth baycar yn teithio rhwng canol y ddinas (Heol y Tollty – arhosfan JG) a Bae Caerdydd yn unig, ac ni fydd yn gwasanaethu tu cefn yr Orsaf Ganolog (arhosfan JM) ar ôl i’r ffyrdd gael eu cau.

 

Newport Bus

Oherwydd cyngerdd Tom Jones a’r Stereophonics (ar 17 Mehefin ac 18 Mehefin) a chyngerdd Rammstein (ar 30 Mehefin) yn Stadiwm Principality, bydd gwasanaeth 30 Newport Bus yn dilyn ei drefniadau dargyfeirio adeg digwyddiadau ac yn teithio ar hyd Plas Dumfries / Boulevard de Nantes yn lle Rhodfa’r Orsaf ar yr adegau canlynol:

Dydd Gwener 17 Mehefin - o 14:30 tan amser y bws olaf
Dydd Sadwrn 18 Mehefin - o 12:00 tan amser y bws olaf
Dydd Iau 30 Mehefin - o 16:30 tan amser y bws olaf; *nodwch y bydd bws 15:20 o Gasnewydd i Gaerdydd yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Plas Dumfries hefyd.

Dyma fydd yr arosfannau yng nghanol Caerdydd:

  • Bysiau o gyfeiriad canol y ddinas: gollwng teithwyr ym Mhlas Dumfries ac wrth arhosfan GC Ffordd y Brenin (ar Heol y Gogledd, gyferbyn â Gwesty’r Hilton)
  • Bysiau i gyfeiriad canol y ddinas: casglu teithwyr wrth arhosfan GC Ffordd y Brenin (ar Heol y Gogledd, gyferbyn â Gwesty’r Hilton)

 

Trafnidiaeth Cymru

 

Nodwch y bydd gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 10pm ar y tair noson pan fydd cyngerdd Ed Sheeran yn cael ei gynnal.

Bydd system giwio ar waith ar ôl y cyngerdd yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Dim ond nifer gyfyngedig o bobl fydd yn gallu teithio adref, felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar.

Ni fydd unrhyw rai sydd dan ddylanwad alcohol, ac y bernir eu bod yn peryglu eu diogelwch eu hunain neu ddiogelwch y cyhoedd, yn cael teithio.

Cyngerdd Ed Sheeran – Map o System Giwio Gorsaf Caerdydd Canolog

Yn ôl