Problemau teithio

Bws Caerdydd

Oherwydd bod arhosfan bysiau ar gau yn Stryd y Parc, mae bysiau llwybrau 92/92B, 93, 94, 95 a 96/96A yn defnyddio arhosfan amgen.

Ar gyfer gwasanaethau 92 i 95, defnyddiwch arhosfan y Philharmonic yn Heol Eglwys Fair AC EITHRIO ar ôl 22:00 ar nos Wener/nos Sadwrn – bryd hynny byddant yn dechrau o arhosfan bysiau KG yn Heol y Porth.

Ar gyfer gwasanaethau 96/96A, defnyddiwch arhosfan bysiau dros dro yn Heol y Porth wrth ymyl mynedfa Stadiwm Principality.

Oherwydd bod Stryd y Parc ar gau, nid yw gwasanaethau 13, 15, 62, 63, 64 a 66 yn dechrau o arhosfan JA Stryd Wood (gyferbyn â Phencadlys y BBC). Yr arhosfan amgen agosaf yw arhosfan dros dro yn Heol y Porth wrth ymyl mynedfa Stadiwm Principality. Yr arhosfan nesaf wedyn fydd Pont Caerdydd.

Oherwydd gwaith sy’n mynd rhagddo yng nghanol y ddinas, ni fydd arhosfan bysiau KH y Royal Hotel yn Heol y Porth yn cael ei ddefnyddio o nos Sul 27 Mawrth ymlaen.

O ganlyniad, bydd y newidiadau canlynol i arosfannau bysiau ar waith am oddeutu 8 wythnos:

Bydd gwasanaeth 4 yn dechrau ac yn gorffen yn Stryd y Parc.

 

Bydd gwasanaethau 13, 15, 25, 62/63, 64, 66 a 96/96A yn dechrau eu taith o arhosfan dros dro yn Heol y Porth wrth ymyl mynedfa Stadiwm Principality. Bydd bysiau yn mynd i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Neville/rhan isaf Heol y Gadeirlan, Despenser Gardens, Arglawdd Fitzhamon a Phont Stryd Wood.

Ar ôl 22:00 ar nos Wener a nos Sadwrn, bydd gwasanaethau 92 a 94 yn dechrau eu taith o arhosfan KG Heol y Porth (wrth ymyl maes parcio’r NCP). Bydd bysiau’n mynd i mewn i ganol y ddinas ar hyd Stryd Clare, rhan isaf Heol y Gadeirlan, Pont Caerdydd a Heol y Porth.

 

Yn ôl