Problemau teithio

Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru

20 Awst

O ganlyniad i’r gweithredu diwydiannol gan Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT), bydd y rhan fwyaf o wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn cael eu hatal dros dro dydd Iau 18 Awst a dydd Sadwrn 20 Awst 2022.

Nid oes anghydfod rhwng Trafnidiaeth Cymru a’r RMT. Fodd bynnag, mae’r gweithredu diwydiannol o ganlyniad i’r anghydfod rhwng yr RMT a Network Rail yn golygu na fydd Trafnidiaeth Cymru yn gallu gweithredu gwasanaethau rheilffyrdd ar seilwaith Network Rail.

Yn anffodus, ni allwn ddiweddaru Cynlluniwr Taith, Amserlenni a Map Teithio Traveline Cymru i adlewyrchu gwybodaeth amser real am wasanaethau bws a thrên y bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio arnynt.

Disgwylir problemau teithio ar y diwrnodau cyn ac ar ôl y gweithredu diwydiannol. Mae’n bosibl y bydd y problemau mawr ar y rheilffyrdd yn effeithio ar drefniadau teithio ar y ffyrdd ac ar fysiau. Dylech ddisgwyl gwasanaethau prysur, oedi ac achosion o ganslo teithiau.

  • I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru yma.
  • I wirio’r sefyllfa ar y ffyrdd, ewch i Traffig Cymru.
  • I gael gwybodaeth am y sefyllfa ar Bontydd Hafren, ewch i wefan Pontydd Hafren.
  • Dilynwch ni ar Twitter @TravelineCymru lle byddwn yn trydar ac yn aildrydar diweddariadau am y gweithredu diwydiannol.
Yn ôl