Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd cylchfan Hirwaun/Trewaun ar gau o 25/07/2022 ymlaen. Oherwydd hynny, bydd yna rai newidiadau i’r gwasanaethau canlynol:  


Gwasanaeth 8 Cefn Rhigos (bysiau 05:20am a 06:20am) o Aberdâr

  • Bydd y bysiau uchod yn gadael Aberdâr yn gynharach ac yn gwasanaethu Pen-y-waun.
  • Bydd y bysiau’n teithio ar hyd top Pen-y-waun (A4059) hyd at y goleuadau traffig, ac yna’n troi i’r dde ac yn teithio drwy Ben-y-waun fel pe baent yn dychwelyd i gyfeiriad Aberdâr. Yna, byddant yn troi i’r chwith o dop Pen-y-waun er mwyn dod yn ôl i gylchfan Dawkins. Yna, byddant yn cael eu dargyfeirio drwy Lwydcoed (Croesbychan) er mwyn iddynt gyrraedd Maescynon (Hirwaun).
  • Yna, bydd y bysiau’n dilyn y ffordd i mewn i Harris Street, yn troi i’r dde i mewn i Brecon Road, yna’n troi i’r dde er mwyn mynd heibio’r Cloc ac ar hyd y Stryd Fawr, ac yn ymuno â’r Tramway a Cynon Terrace. Byddant wedyn yn troi i’r dde ym mhen draw Cynon Terrace i mewn i Brecon Rd, yn teithio hyd at dafarn y Lamb ac yn ailymuno â’u llwybr arferol i Gefn Rhigos.
  • Bydd y bysiau’n ôl yn dilyn y llwybr uchod ond i’r cyfeiriad arall.

 

Gwasanaeth 9 o Aberdâr i Ben-y-waun (O ddydd Llun i ddydd Sadwrn)

  • Bydd gwasanaeth o Aberdâr i Ben-y-waun yn dilyn ei lwybr arferol ond bydd y bysiau’n teithio ar hyd top Pen-y-waun hyd at y goleuadau traffig, ac yna’n troi i’r dde ac yn teithio drwy Ben-y-waun yn ôl i Aberdâr. Bydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu bob hanner awr. 
  • At hynny, bydd yna fws gwennol a weithredir gan Jarvis Coaches, a fydd yn gweithredu rhwng Trewaun a Phen-y-waun ac a fydd yn cysylltu â’n gwasanaethau ni.

Mae amserlen y bws gwennol i’w gweld yma  

 

Gwasanaethau 7, 8 a 9 o Aberdâr (O ddydd Llun i ddydd Sadwrn)

  • Bydd y gwasanaethau uchod yn gweithredu bob awr.
  • Bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu dargyfeirio o’r Cross Inn, Trecynon drwy Lwydcoed (Croesbychan) er mwyn iddynt gyrraedd Maescynon (Hirwaun).
  • Bydd y bysiau’n teithio i Hirwaun drwy Faescynon, yna byddant yn dilyn y ffordd i mewn i Harris Street, yn troi i’r dde i mewn i Brecon Road, yna’n troi i’r dde er mwyn mynd heibio’r Cloc ac ar hyd y Stryd Fawr, ac yn ymuno â’r Tramway a Cynon Terrace. Byddant wedyn yn troi i’r dde ym mhen draw Cynon Terrace i mewn i Brecon Rd, yn teithio hyd at dafarn y Lamb ac yn ailymuno â’u llwybr arferol i Lyn-nedd, Merthyr Tudful neu Benderyn.
  • Bydd y bysiau’n ôl i Aberdâr yn dilyn y llwybr uchod ond i’r cyfeiriad arall.

 

Nodwch: Ni fydd y gwasanaethau’n gallu aros wrth unrhyw arosfannau bysiau rhwng y Cross Inn, Trecynon a’r Prince of Wales, Hirwaun.

 

Gwasanaeth 9 Glynhafod (O ddydd Llun i ddydd Sadwrn)

  • Bydd y gwasanaeth uchod yn gweithredu bob 15 munud a bydd yn cysylltu â gwasanaeth 9 i Ben-y-waun.
  • Bydd y ddau wasanaeth cyntaf i Ferthyr yn dechrau yng Nglynhafod ac yn dilyn yr un dargyfeiriad â gwasanaethau 7, 8 a 9.
  • Bydd y tri gwasanaeth olaf o Ferthyr Tudful yn dilyn yr un dargyfeiriad â gwasanaethau 7, 8 a 9. Bydd gwasanaethau i gyfeiriad Aberdâr hefyd yn mynd i Lynhafod. 
Yn ôl