Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru, Adventure Travel

Bydd ffordd Mynydd y Maerdy ar gau o ddydd Llun 4 Gorffennaf tan fis Medi.

Oherwydd hynny, bydd ein gwasanaeth 172 yn cael ei ddargyfeirio ar y ffordd i/o Aberdâr ar hyd yr A470 a’r A4058 yn ôl ac ymlaen i Orsaf Fysiau Tonypandy.

Bydd Stagecoach yn gweithredu ei wasanaeth arferol o Orsaf Fysiau Tonypandy yn ôl ac ymlaen i Borthcawl.

Bydd New Adventure Travel yn gweithredu bws gwennol i/o Faerdy i Orsaf Fysiau Tonypandy tra bydd y ffordd ar gau. Bydd y bws gwennol yn cysylltu â gwasanaeth 172 i’r ddau gyfeiriad. 

 

Ni fydd unrhyw newid i amserlen gwasanaeth 172

Mae amserlen bws gwennol NAT i’w gweld yma

Mae amserlen gwasanaeth 172 i’w gweld yma

Yn ôl