
Trafnidiaeth Cymru
3 Chwefror
Mae undeb gyrwyr trenau ASLEF a RMT (Aelodau gyrrwr trên) wedi cyhoeddi y byddan nhw ar streic ddydd Mercher 1 a dydd Gwener 3 Chwefror. Mae rhai o’n gwasanaethau’n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i’r amserlen sydd wedi'i chwtogi'n sylweddol a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill.
Nid yw Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhan o weithredu diwydiannol gan aelodau o undeb y gyrwyr trenau ASLEF a RMT (Aelodau gyrrwr trên).
Bydd gwasanaethau TrC yn rhedeg ond bydd gwasanaethau gweithredwyr trenau eraill, ledled y DU, yn gyfyngedig.
Gwiriwch eich taith gyfan, gan gynnwys gwasanaethau a weithredir gan weithredwyr rheilffyrdd eraill gan y gallai lefel eu gwasanaeth fod yn wahanol i Trafnidiaeth Cymru.
Mae'n gynllunwyr teithio wedi i'w diweddaru gyda'r wybodaeth fwyaf diweddar at gyfer.
![]() |
Dydd Gwener 3 Chwefror - Bydd trenau yn brysur, yn enwedig rhwng: |
|
*Bydd trenau Crewe i Fanceinion Piccadilly yn gollwng yn Wilmslow a Stockport yn unig; Bydd trenau Manceinion Piccadilly i Crewe yn codi yn Wilmslow a Stockport yn unig.
Yn anffodus, ni allwn ddiweddaru Cynlluniwr Taith, Amserlenni a Map Teithio Traveline Cymru i adlewyrchu gwybodaeth amser real am wasanaethau bws a thrên y bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio arnynt.
Disgwylir problemau teithio ar y diwrnodau cyn ac ar ôl y gweithredu diwydiannol. Mae’n bosibl y bydd y problemau mawr ar y rheilffyrdd yn effeithio ar drefniadau teithio ar y ffyrdd ac ar fysiau. Dylech ddisgwyl gwasanaethau prysur, oedi ac achosion o ganslo teithiau.
- I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru yma.
- I wirio’r sefyllfa ar y ffyrdd, ewch i Traffig Cymru.
- I gael gwybodaeth am y sefyllfa ar Bontydd Hafren, ewch i wefan Pontydd Hafren.
- Dilynwch ni ar Twitter @TravelineCymru lle byddwn yn trydar ac yn aildrydar diweddariadau am y gweithredu diwydiannol.