Problemau teithio

Newport Bus, Stagecoach West

O ddydd Llun 21 Tachwedd ymlaen, bydd dau wasanaeth newydd yn gweithredu o Gas-gwent. Byddant yn cymryd lle hen wasanaeth 761 Stagecoach West a’r rhan honno o wasanaeth 24 a oedd yn gweithredu rhwng Lydney a Chas-gwent.

Gwasanaeth C4 fydd y gwasanaeth newydd ar gyfer tref Cas-gwent, a fydd yn gwasanaethu Sedbury a Beachley. Gwasanaeth 72 fydd y gwasanaeth gwledig newydd i Lydney yn Fforest y Ddena, a fydd yn gwasanaethu Tutshill a’r pentrefi ar y ffordd i Lydney. Bydd y ddau wasanaeth yn defnyddio arhosfan 2 yng ngorsaf fysiau Cas-gwent.

Bydd gwasanaeth C4 yn gweithredu fel a ganlyn: Gorsaf fysiau Cas-gwent, Tesco, Wyebank Road, Buttington Road, King Alfreds Road, Beachley Road, ar hyd Loop Road o gyfeiriad canol y dref/ar hyd Beachley Road i gyfeiriad canol y dref, Gibraltar Way a Pavilion Road i’r Swyddfa i Deuluoedd.

Yn Gibraltar Way, bydd bysiau i gyfeiriad Cas-gwent yn dilyn yr un llwybr ag y maent wrth deithio i gyfeiriad Beachley. Ar deithiau sy’n gwasanaethu Ysgol Wyedean, bydd y bysiau hefyd yn gwasanaethu King Alfreds Road a Wyebank Road.

Ni fydd gwasanaeth C4 yn gwasanaethu arhosfan Siopau Sedbury, oherwydd bod yr arhosfan tybiedig ar groesfan sebra.

 

Mae gwybodaeth am amserlen gwasanaeth C4 i’w chael yma.

 

Bydd gwasanaeth 72 yn gweithredu fel a ganlyn: Gorsaf fysiau Cas-gwent, Beachley Road, Tutshill, Stroat, Woolaston, Alvington, Aylburton a Church Road i orsaf fysiau Lydney.

Ni fydd gwasanaeth 72 yn gwasanaethu arhosfan bysiau Siopau Forest Parade yn Lydney, oherwydd nad yw’r arhosfan yn bodoli.

Mae gwybodaeth am amserlen gwasanaeth 72 i’w chael yma.

Yn ôl