Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

Mae prisiau tocynnau unffordd a dwyffordd Stagecoach yn Ne Cymru yn newid o ddydd Sul 26 Chwefror ymlaen.

Beth sy’n newid?

  • Bydd cŵn yn cael teithio am ddim ac ni fydd angen tocyn unffordd neu docyn wythnos arnynt.
  • Bydd prisiau tocynnau unffordd a dwyffordd yn newid ar draws y de o 26 Chwefror 2023 ymlaen.
  • Bydd prisiau tocynnau unffordd i oedolion yn newid 37 ceiniog ar gyfartaledd. 
  • Bydd prisiau tocynnau dwyffordd i oedolion yn newid 77 ceiniog ar gyfartaledd. 
  • Bydd prisiau tocynnau unffordd i blant a deiliaid fyngherdynteithio yn newid 30 ceiniog ar gyfartaledd. 
  • Bydd prisiau tocynnau dwyffordd i blant a deiliaid fyngherdynteithio yn newid 49 ceiniog ar gyfartaledd. 
  • Bydd rhai tocynnau dwyffordd yn dod i ben oherwydd bod tocynnau unffordd neu docynnau diwrnod ar gael sy’n cynnig gwerth gwell am arian*

*bydd prisiau’n amrywio ac yn dibynnu ar y lleoliad

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Stagecoach. Gallwch ddefnyddio cyfleuster dod o hyd i docyn neu gynlluniwr taith Stagecoach i weld y prisiau sydd wedi’u diweddaru neu gallwch lawrlwytho Ap Stagecoach.

Yn ôl