Problemau teithio

Newport Bus

Ddydd Sul 16 Ebrill 2023, bydd Casnewydd yn cynnal Marathon a 10K ABP Casnewydd Cymru. O ganlyniad, bydd rhywfaint o darfu ar wasanaethau bysiau fel a ganlyn:

Bydd gorsafoedd bysiau Friars Walk a Sgwâr y Farchnad yn anhygyrch drwy'r dydd. Bydd pob taith yn rhedeg i/o arosfannau ar Queensway (gyferbyn â Gorsaf Casnewydd) fel a ganlyn:

Llwybr 2 – Stondin C8

Llwybrau 9A/9C – Stondin C7

Llwybr 16C – Stondin Q4

Llwybr 19 – Stondin Q4

Llwybr 26A – Stondin Q8

Llwybr 30 – StondinQ4

Llwybrau 35/36 – StondinQ4

Llwybr 29A – Stondin Q8

Llwybr 74 – Stondin Q8

 

Bydd y dargyfeiriadau ychwanegol canlynol yn berthnasol:

Llwybr 9C

08:06, 09:06, 10:06 teithiau. Ar ôl gwasanaethu Parc Manwerthu Casnewydd, bydd bysiau'n dolennu cylchfan Lee Way ac yna'n mynd i Barc Broadmead ar hyd y lôn fysiau i ailafael yn eu llwybr arferol. Ni fydd Nash Road a Longfellow Court yn cael eu gwasanaethu. Nid oes unrhyw newidiadau i fysiau ar lwybr 9A.

Llwybrau 30, 35, 36

Trwy’r dydd – Bydd bysiau’n rhedeg drwy Bont Casnewydd, Clarence Place, Corporation Road a Phont George Street i’r ddau gyfeiriad gan ailafael yn y llwybr arferol o’r Orsaf Heddlu Ganolog. Ni fydd arosfannau Stryd Emlyn, Ffordd y Brenin a Theras Ebeneser yn cael eu gwasanaethu.

Llwybr 74

Ni fydd 08:35 o Gasnewydd yn gwasanaethu Withy Walk/Redbrook Road ym Magwyr. Bydd bysus yn aros ar y brif ffordd trwy Fagwyr. Ni fydd 0840 a 1100 o Gas-gwent yn gwasanaethu Withy Walk/Redbrook Road ym Magwyr. Bydd bysus yn aros ar y brif ffordd trwy Fagwyr. Yn ogystal, ar y siwrnai 0840 o Gas-gwent, ar ôl gwasanaethu Parc Manwerthu Casnewydd bydd bysiau’n gweithredu drwy Heol Aberddawan gan ailafael yn eu llwybr arferol ym Mharc Beechwood. Ni fydd Nash Road a Somerton Road yn cael eu gwasanaethu ar y daith hon.

Yn ôl