Problemau teithio

Trafnidiaeth Cymru

Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y bydd 14 o Gwmnïau Gweithredu Trenau (heb gynnwys TrC) yn cynnal gweithredu diwydiannol ar dydd Gwener 2 Mehefin.

Mae undeb gyrwyr trenau ASLEF wedi cyhoeddi y byddan nhw ar streic ddydd Sadwrn 3 Mehefin.

Mae rhai o’n gwasanaethau’n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i’r amserlen sydd wedi'i chwtogi'n sylweddol a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill.

Nid yw Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhan o weithredu diwydiannol gan aelodau o mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) a aelodau o undeb y gyrwyr trenau ASLEF.

Bydd gwasanaethau TrC yn rhedeg ond bydd gwasanaethau gweithredwyr trenau eraill ar y rhwydwaith rheilffyrdd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban yn gyfyngedig.

Bydd y gweithredu diwydiannol hwn yn effeithio ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Gwener 2 Mehefin
  • Dydd Sadwrn 3 Mehefin

Gwiriwch eich taith gyfan, gan gynnwys gwasanaethau a weithredir gan weithredwyr rheilffyrdd eraill gan y gallai lefel eu gwasanaeth fod yn wahanol i Trafnidiaeth Cymru.

Dydd Gwener 2 Mehefin

Bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn brysurach nag arfer (fel yr uchod).

Yn gynnar yn y bore a gyda’r nos, bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru sy’n rhedeg i/allan o Gaerloyw, Manceinion Piccadilly, Birmingham International a Liverpool Lime Street yn cael eu amharu cyn 07:00 ac ar ôl 19:00.

Dydd Sadwrn 3 Mehefin

Bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg yn ôl yr amserlen ond bydd y llwybrau canlynol yn brysurach nag arfer:

  • Caerfyrddin - Abertawe - Pen-y-bont ar Ogwr - Caerdydd Canolog - Casnewydd - Cyffordd Twnnel Hafren
  • Caerloyw - Cheltenham
  • Gogledd Cymru - Caer - Crewe - Manceinion1, 2

Bydd gwasanaethau i Birmingham yn dechrau ac yn gorffen yn Wolverhampton ar 31 Mai ac yn yr Amwythig ar 3 Mehefin.

1. Ddydd Mercher 31 Mai, bydd trenau Crewe i Fanceinion Piccadilly yn galw yn Wilmslow a Stockport yn unig. Bydd trenau Manceinion Piccadilly i Crewe yn codi yn Wilmslow a Stockport yn unig.
2. Ddydd Sadwrn 3 Mehefin, bydd gwasanaethau Manceinion yn dechrau ac yn dod i ben yn 
Warrington Bank Quay a Crewe.

Yn anffodus, ni allwn ddiweddaru Cynlluniwr Taith, Amserlenni a Map Teithio Traveline Cymru i adlewyrchu gwybodaeth amser real am wasanaethau bws a thrên y bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio arnynt.

Disgwylir problemau teithio ar y diwrnodau cyn ac ar ôl y gweithredu diwydiannol. Mae’n bosibl y bydd y problemau mawr ar y rheilffyrdd yn effeithio ar drefniadau teithio ar y ffyrdd ac ar fysiau. Dylech ddisgwyl gwasanaethau prysur, oedi ac achosion o ganslo teithiau.

  • I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru yma.
  • Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wefan First Cymru yma.
  • I wirio’r sefyllfa ar y ffyrdd, ewch i Traffig Cymru.
  • I gael gwybodaeth am y sefyllfa ar Bontydd Hafren, ewch i wefan Pontydd Hafren.
  • Dilynwch ni ar Twitter @TravelineCymru lle byddwn yn trydar ac yn aildrydar diweddariadau am y gweithredu diwydiannol.
Yn ôl