Stagecoach De Cymru
Bydd ffordd yr A4054 Heol Caerdydd, Glyn-taf ar gau rhwng 22 Gorffennaf a 3 Medi. Bydd gwasanaeth bws gwennol rhad ac am ddim yn gwasanaethu cymunedau Rhydyfelin, Y Ddraenen Wen a Glan-bad.
Tra bydd y ffordd ar gau, ni fydd Gwasanaethau Stagecoach 120 a 132 yn gallu gwasanaethu Rhydyfelin, y Ddraenen Wen a Glan-bad – a byddant yn dargyfeirio ar hyd yr A470, gan ddychwelyd i’r llwybr arferol yn Ystad Ddiwydiannol Trefforest.
Bydd gwasanaeth bws gwennol rhad ac am ddim yn rhedeg o Erddi Glantaf (cyn Ysgol Fabanod Glantaf) i Drefforest.
Bydd yn gadael o Erddi Glantaf i gysylltu â Gwasanaethau 120 a 132 yn Safle Bws Heol Crochendy ar Ystad Ddiwydiannol Trefforest, i deithio ymlaen i Ffynnon Taf, Caerffili a Chaerdydd.
Bydd hefyd yn gweithredu i’r cyfeiriad arall i gwrdd â gwasanaethau wrth Safle Bws Heol Crochendy, ar gyfer teithio tua’r gogledd i Lan-bad, Y Ddraenen Wen a Rhydyfelin.