Stagecoach De Cymru
Oherwydd bod cylchfan Hirwaun/Trewaun wedi cau rhwng 31 Gorffennaf a 20 Awst, bydd rhai newidiadau i’r gwasanaethau a ganlyn.
Gwasanaeth 8 Cefn Rhigos (05:20am a 06:20am) o Aberdâr:
- Bydd y teithiau uchod yn gadael Aberdâr yn gynharach ac yn gwasanaethu Pen-y-waun.
- Bydd bysiau’n teithio ar hyd top Pen-y-waun (A4059) tan y goleuadau traffig, ac yna’n troi i’r dde ac yn teithio drwy Ben-y-waun fel pe bai’n dychwelyd i Aberdâr. Yna byddant yn troi i’r chwith o ben Pen-y-waun yn ôl i gylchfan Dawkins. Yna byddant yn dargyfeirio drwy Lwydcoed (Croesbychan) i gyrraedd Maescynon (Hirwaun).
- Yna bydd bysiau’n dilyn y ffordd i Stryd Harris, yn troi i’r dde i fynd ar Brecon Road, yna’n troi i’r dde i fynd heibio’r Cloc ac ar hyd y Stryd Fawr ac yn uno â’r Dramffordd a Cynon Terrace. Yna, byddant yn troi i’r dde ar ben draw Cynon Terrace ar Brecon Road, yn mynd yr holl ffordd i dafarn y Lamb ac yn ailymuno â'r llwybr arferol i Gefn Rhigos.
- Bydd y teithiau dwyffordd yn dilyn y drefn uchod am yn ôl.
Gwasanaeth 9 Aberdâr i Ben-y-waun (dydd Llun i ddydd Sadwrn):
- Bydd Stagecoach yn rhedeg gwasanaeth o Aberdâr i Ben-y-waun, a bydd hyn yn dilyn y llwybr arferol ac eithrio pan fydd yn teithio ar hyd top Pen-y-waun tan y goleuadau traffig, yna bydd y bysiau’n troi i’r dde ac yn teithio drwy Ben-y-waun yn ôl i Aberdâr. Bydd y gwasanaeth hwn yn rhedeg bob 40 munud.
- Bydd bws gwennol rhwng Trewaun a Siopau Pen-y-waun - Amserlen Bws Gwennol
Dim ond rhwng Glynhafod a Hirwaun y bydd Gwasanaeth 9 yn rhedeg ar ddydd Sul ac ni fydd yn mynd yn ei flaen i Ferthyr.
Gwasanaethau 8 a 9 o Aberdâr (dydd Llun i ddydd Sadwrn)
- Bydd y gwasanaethau uchod yn rhedeg bob awr.
- Bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu dargyfeirio o Cross Inn, Trecynon drwy Lwydcoed (Croesbychan) i gyrraedd Maescynon (Hirwaun).
- Bydd bysiau’n rhedeg i Hirwaun drwy Faescynon, yna byddant yn dilyn y ffordd i Stryd Harris, ac yn troi i’r dde i fynd ar Brecon Road. Yna byddant yn troi i’r dde i fynd heibio’r Cloc ac ar hyd y Stryd Fawr ac yn uno ar y Tramffordd a Cynon Terrace. Bydd bysiau’n troi i’r dde ym mhen draw Cynon Terrace i fynd ar Brecon Road, ac yn mynd yr holl ffordd at dafarn y Lamb ac yn ailymuno â’r llwybr arferol naill ai i Lyn-nedd, Merthyr Tudful neu Benderyn.
- Bydd y teithiau dwyffordd i Aberdâr yn dilyn y drefn uchod am yn ôl.
Sylwch: Ni fydd gwasanaethau 8 a 9 yn gallu stopio yn y safleoedd bws a restrir isod. Os ydych chi’n teithio i’r safleoedd bws a nodir, bydd angen i chi fynd ar fws Gwasanaeth 172:
- Clive Street, Trecynon
- Full Moon, Trecynon
- Arthurs Place, Llwydcoed
- Shop Houses, Llwydcoed
- Bryn Moreia, Llwydcoed
- Miners Row, Llwydcoed
- Eglwys Sant Iago, Llwydcoed