Problemau teithio

Bws Caerdydd

Oherwydd y gwaith ffordd parhaus ar gyffordd Stryd Bute a Rhodfa Lloyd George, bydd gwasanaeth 5 tuag at Fae Caerdydd a gwasanaeth 8 tuag at Neuadd y Sir yn dargyfeirio, nes yr hysbysir yn wahanol.

Bydd gwasanaeth 5 tuag at Fae Caerdydd yn teithio drwy Rodfa Lloyd George, yn hytrach na Stryd Bute. Defnyddiwch safleoedd bws ar hyd Rhodfa Lloyd George fel dewisiadau arall yn hytrach na’r rhai ar Stryd Bute.

Bydd gwasanaeth 8 tuag at Neuadd y Sir yn rhedeg rhwng Cei’r Fôr-Forwyn a Neuadd y Sir drwy’r Rhodres. Ni fydd safle bws Nat West ar Stryd Bute yn cael ei wasanaethu; defnyddiwch y safle bws yn y gilfan fysiau ar Y Rhodres fel dewis arall.

Nid yw’r dargyfeiriad yn effeithio ar wasanaeth 5 tuag at ganol y ddinas a gwasanaeth 8 tuag at Ysbyty Athrofaol Cymru a byddant yn dilyn y llwybr arferol.

Yn ôl