Problemau teithio

Ras 10K Caerdydd

Cynhelir ras 10K Caerdydd ddydd Sul 3 Medi. Oherwydd bod ffyrdd wedi cau ar gyfer y digwyddiad yn Heol y Gogledd, Ffordd y Brenin, Stryd y Castell, Heol y Porth, Stryd Wood, Arglawdd Fitzhamon a Heol y Gadeirlan, bydd bysiau’n dargyfeirio ac yn stopio mewn gwahanol derfynellau yng nghanol y ddinas rhwng 09:00 a 12:45.

Cofiwch wirio’r trefniadau isod gan weithredwyr cyn i chi deithio. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon â rhagor o wybodaeth wrth i ni ei chael gan weithredwyr:

 

Bws Caerdydd

Map Arglawdd Taffs Mead

4 Canol y Ddinas i Lecwydd
09:00 i 11:20 - bydd bysiau’n cychwyn/gorffen yn Arglawdd Taffs Mead (stop 2).

9 Ysbyty Athrofaol Cymru tuag at y Pentref Chwaraeon
09:00 i 11:20 - bydd bysiau’n teithio drwy ganol y ddinas drwy Rodfa’r Orsaf, Rhodfa Bute (yn galw yn safle bws Raddison Blu), Sgwâr Callaghan, Heol Penarth. Ni fydd bysiau’n gwasanaethu’r Philharmonic, Stryd Wood, Stryd Tudor, Heol Clare.
11:20 i 12:45 - bydd bysiau’n teithio drwy ganol y ddinas drwy Rodfa’r Orsaf, Rhodfa Bute (gan alw yn safle bws Raddison Blu), Philharmonic, Stryd Wood (stop JR) a Stryd Tudor.

9 Y Pentref Chwaraeon tuag at Ysbyty Athrofaol Cymru
09:00 i 11:20 - bydd bysiau’n teithio ar y llwybr arferol i Heol Penarth, ac yna’n teithio i Rodfa Bute drwy Heol Penarth a Sgwâr Callaghan.  Ni fydd y safleoedd bws yn Heol Clare, Stryd Tudor ac Arcêd Wyndham yn cael eu gwasanaethu.
11:20 ymlaen - bydd bysiau’n dychwelyd i’r llwybr arferol drwy Heol Clare, Stryd Tudor ac Arcêd Wyndham i Stryd Bute.

11 Canol y Ddinas i Bengam Green
09:00 i 12:45 - bydd bysiau’n cychwyn/gorffen o’u safle arferol yn Hayes Bridge Road, ond bydd bysiau’n mynd i ganol y ddinas drwy Rodfa’r Orsaf, Rhodfa’r Bute, heb fod yn gwasanaethu Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin neu Heol y Porth.

13 Canol y Ddinas i’r Ddrôp
17 a 18 Canol y Ddinas i Drelái

09:00 i 12:45 - bydd bysiau’n cychwyn/gorffen yn Arglawdd Taffs Mead (stop 4).
Ni fydd y safleoedd bws yn Stryd Despenser, Arglawdd Fitzhamon, Stryd Wood, Heol y Porth, Pont Caerdydd nac Ysbyty Dewi Sant yn cael eu gwasanaethu.

21 a 23 Canol y Ddinas - Yr Eglwys Newydd - Rhiwbeina - Canol y Ddinas
27 Canol y Ddinas - Thornhill

09:00 i 12:45 - bydd bysiau'n cychwyn/gorffen yn Heol y Brodyr Llwydion i fynd i mewn ac allan drwy Blas y Parc a Heol Colum i'r ddau gyfeiriad.
Ni fydd y safleoedd bws ar Heol y Porth, Ffordd y Brenin na Heol Corbett yn cael eu gwasanaethu.

24 Canol y Ddinas - Yr Eglwys Newydd - Llandaf - Canol y Ddinas

  • 08:20 - bydd y daith yn cychwyn o Heol y Porth fel arfer ac yn dilyn y llwybr arferol drwy’r Eglwys Newydd a Llandaf, ac yna’n mynd i Heol y Brodyr Llwydion drwy Rodfa’r Gorllewin, Cyfnewidfa Gabalfa, Heol y Gogledd, Heol Colum, a Phlas y Parc. Ni fydd y safleoedd bws yn Ysgol Howells, Heol Penhill, Caeau Llandaf, Heol y Gadeirlan a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu. 
  • 09:15 - bydd y daith yn cychwyn o Heol y Brodyr Llwydion, ond yn gorffen yn Arglawdd Taffs Mead, yn rhedeg rhwng Heol Penhill a Taffs Mead drwy Heol Llandaf, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Stryd Neville, Stryd Clare a Heol Clare. Ni fydd y safleoedd bws ar Heol Penhill, Caeau Llandaf, Heol y Gadeirlan a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.
  • 10:15, 11:15 a 12:15 - bydd y teithiau’n cychwyn o Arglawdd Taffs Mead ac yn teithio i’r Philog drwy Stryd Clare, Stryd Neville, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Heol Llandaf, Heol Caerdydd, Rhodfa’r Gorllewin a Chyfnewidfa Gabalfa. Ni fydd y safleoedd bws ar Heol y Porth ac ar hyd Heol y Gogledd yn cael eu gwasanaethu.

25 Canol y Ddinas - Llandaf - Yr Eglwys Newydd - Canol y Ddinas

  • 08:45 - bydd y daith yn dechrau o Stryd Wood fel arfer ac yn dilyn y llwybr arferol drwy Landaf a’r Eglwys Newydd, ac yna’n mynd i Arglawdd Taffs Mead drwy Gyfnewidfa Gabalfa, Rhodfa’r Gorllewin, Heol Caerdydd, Heol Llandaf, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Stryd Neville, Stryd Clare a Heol Clare. Ni fydd y safleoedd bws ar hyd Heol y Gogledd, Ffordd y Brenin a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu ar y rhan o’r daith sy’n teithio i mewn.
     
  • 09:45 a 10:45 - bydd y teithiau’n dechrau o Arglawdd Taffs Mead ac yn gadael canol y ddinas drwy Stryd Clare, Stryd Neville, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, a Heol Llandaf.  Bydd bysiau’n dilyn y llwybr arferol o Heol y Palas i’r Eglwys Newydd, yna bydd Cyfnewidfa Gabalfa yn dargyfeirio drwy Rodfa’r Gorllewin, Heol Caerdydd, Heol Llandaf, Stryd Neville a Stryd Clare i Arglawdd Taffs Mead. Ni fydd y safleoedd bws ar hyd Heol y Gogledd, Ffordd y Brenin a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.
     
  • 11:45 - bydd y daith yn dechrau o Arglawdd Taffs Mead ac yn gadael canol y ddinas drwy Stryd Clare a Heol y Gadeirlan, ac yna’n dilyn y llwybr arferol drwy Landaf a’r Eglwys Newydd. O Gyfnewidfa Gabalfa, bydd y daith hon yn dargyfeirio drwy Rhodfa’r Gorllewin, Heol Caerdydd, Heol Penhill, Heol y Gadeirlan a Stryd Clare i Arglawdd Taffs Mead. Ni fydd y safleoedd bws ar hyd Heol y Gogledd, Ffordd y Brenin a Heol y Porth yn cael eu gwasanaethu.

28 Canol y Ddinas i Thornhill
09:00 i 12:45 - bydd bysiau’n cychwyn/gorffen yn eu safle arferol yn Hayes Bridge Road, ond bydd bysiau’n mynd i ganol y ddinas drwy Rodfa’r Orsaf, Rhodfa Bute, heb wasanaethu Dumfries Place, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin neu Heol y Porth.

30 Caerdydd i Gasnewydd
09:00 i 12:45 - Heol y Tollty JG (safle arferol), ond bydd bysiau’n mynd i ganol y ddinas drwy Rhodfa’r Orsaf, Rhodfa Bute heb fod yn gwasanaethu Dumfries Place, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin na Heol y Porth.

35 Canol y Ddinas i Gabalfa
09:00 i 12:45 - bydd bysiau’n cychwyn/gorffen yn Heol y Brodyr Llwydion.
Ni fydd y safleoedd bws ar Heol y Porth a Ffordd y Brenin yn cael eu gwasanaethu.

44 a 45 Canol y Ddinas i Laneirwg
49 a 50 Canol y Ddinas i Lanrhymni

09:00 i 12:45 - bydd bysiau’n cychwyn/gorffen yn Rhodfa’r Bute (y tu ôl i John Lewis).
Ni fydd y safleoedd bws ar gyfer Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin, Heol y Castell a Gwesty’r Royal yn cael eu gwasanaethu.

52 Canol y Ddinas i Gyncoed
57 a 58 Canol y Ddinas i Bontprennau

09:00 i 12:45 - bydd bysiau’n dechrau/gorffen yn Heol y Tollty JG.
Ni fydd y safleoedd bws ar gyfer Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin, Heol y Castell a Gwesty’r Royal yn cael eu gwasanaethu.

61 Canol y Ddinas i Bentre-Baen
09:00 i 12:45 - bydd bysiau’n cychwyn/gorffen yn Arglawdd Taffs Mead (stop 3).
Ni fydd y safleoedd bws yn Stryd Despenser, Arglawdd Fitzhamon, Heol y Porth, Pont Caerdydd nac Ysbyty Dewi Sant yn cael eu gwasanaethu. 

63 Canol y Ddinas i Greigiau
09:00 i 12:45 - bydd bysiau’n cychwyn/gorffen yn Arglawdd Taffs Mead (stop 3).
Rhwng 09:00 ac 11:35 bydd bysiau’n teithio rhwng Arglawdd Taffs Mead a Heol y Palas drwy Heol Clare, Stryd Clare, Stryd Neville, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen a Heol Llandaf i’r ddau gyfeiriad. Ni fydd arosfannau bysiau ar hyd Ffordd Penhill a Heol y Gadeirlan yn cael eu gwasanaethu.
Rhwng 11:35 a 12:45 bydd bysiau’n rhedeg rhwng Arglawdd Taffs Mead a Heol y Palas drwy Heol Clare, Stryd Clare a Heol y Gadeirlan.

92 Caerdydd i Benarth
94 Caerdydd i’r Barri drwy Sili
95 Caerdydd i’r Barri drwy Ddinas Powys

09:00 i 11:20 - bydd bysiau’n cychwyn/gorffen yn Arglawdd Taffs Mead (stop 2).
Ni fydd y safleoedd bws ar Stryd Tudor a Stryd Wood yn cael eu gwasanaethu.

96 Caerdydd i’r Barri drwy Wenfô
09:00 i 12:45 - bydd bysiau’n cychwyn/gorffen yn Arglawdd Taffs Mead (stop 2).
Ni fydd y safleoedd bws yn Stryd Despenser, Arglawdd Fitzhamon, Stryd Wood, Heol y Porth, Pont Caerdydd nac Ysbyty Dewi Sant yn cael eu gwasanaethu.

 

Newport Bus

 

Stagecoach yn Ne Cymru 

The 122 will run via Western Avenue to Greyfriars Road until 1300.
The 132 and 26 will not be able to serve North Road from and to Column Road until 1300.
Yn ôl