Problemau teithio

Trafnidiaeth Cymru

Mae’r undeb gyrwyr trenau ASLEF wedi cyhoeddi y bydd 16 o Gwmnïau Gweithredu Trenau (heb gynnwys TrC) yn cynnal gweithredu diwydiannol ar dydd Sadwrn 30 Medi a dydd Mercher 4 Hydref a gwaharddiad ar oramser o ddydd Llun 2 Hydref i dydd Gwener 6 Hydref.

Nid yw Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhan o weithredu diwydiannol gan aelodau o undeb y gyrwyr trenau ASLEF.

Bydd gwasanaethau TrC yn rhedeg ond bydd gwasanaethau gweithredwyr trenau eraill ar y rhwydwaith rheilffyrdd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban yn gyfyngedig. Mae rhai o’n gwasanaethau’n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i’r amserlen sydd wedi'i chwtogi'n sylweddol a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill.

Bydd y gweithredu diwydiannol hwn yn effeithio ar y dyddiadau canlynol: 

  • Dydd Sadwrn 30 Medi
  • Dydd Mercher 4 Hydref

Gwiriwch eich taith gyfan, gan gynnwys gwasanaethau a weithredir gan weithredwyr rheilffyrdd eraill gan y gallai lefel eu gwasanaeth fod yn wahanol i Trafnidiaeth Cymru.

Yn anffodus, ni allwn ddiweddaru Cynlluniwr Taith, Amserlenni a Map Teithio Traveline Cymru i adlewyrchu gwybodaeth amser real am wasanaethau bws a thrên y bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio arnynt.

Disgwylir problemau teithio ar y diwrnodau cyn ac ar ôl y gweithredu diwydiannol. Mae’n bosibl y bydd y problemau mawr ar y rheilffyrdd yn effeithio ar drefniadau teithio ar y ffyrdd ac ar fysiau. Dylech ddisgwyl gwasanaethau prysur, oedi ac achosion o ganslo teithiau.

  • I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru yma.
  • I wirio’r sefyllfa ar y ffyrdd, ewch i Traffig Cymru.
  • I gael gwybodaeth am y sefyllfa ar Bontydd Hafren, ewch i wefan Pontydd Hafren.
  • Dilynwch ni ar Twitter @TravelineCymru lle byddwn yn trydar ac yn aildrydar diweddariadau am y gweithredu diwydiannol.
Yn ôl