Problemau teithio

Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Stadiwm Lecwydd

Er mwyn diogelu'r cefnogwyr ar ôl gemau Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn Stadiwm Lecwydd, bydd Heol Lecwydd a Heol y Grange ar gau ar 16 a 19 Medi rhwng 21:30 a 22:00.

Bydd gwasanaeth 95 yn gadael y Barri am 21:00 (cyrraedd Asda Lecwydd am 21:40), a bydd yn rhedeg rhwng Lecwydd a chanol y ddinas drwy Heol Hadfield, Heol Penarth a Heol Clare. Ni fydd bysiau yn galw yn Heol Lecwydd a Heol Parc Ninian.

Yn ôl