
Gŵyl Fwyd y Fenni
Sadwrn 21 – Sul 22 Medi
Mynd i'r ŵyl?
Cynlluniwch ymlaen llaw a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eich taith.
Ar y Bws
Mae gwasanaethau Stagecoach a Phil Anslow yn gweithredu o/i Orsaf Fysiau’r Fenni, bum munud ar droed o fynedfa’r ŵyl. I gynllunio eich taith bws, ewch i'n tudalen Cynlluniwr Taith.
Ar y Trên
Oherwydd gwaith peirianyddol, bydd bysiau yn lle trenau yn gweithredu rhwng Casnewydd, Henffordd a'r Amwythig yn ystod penwythnos yr ŵyl. Bydd bws gwennol am ddim yn cysylltu gorsaf drenau'r Fenni a gorsaf fysiau'r Fenni. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ac i archebu tocyn ar gyfer yr ŵyl ewch i wefan Gŵyl Fwyd y Fenni.