Richards Bros (T5) - Hysbysiad Cwsmer - 17/12/2024
Bydd newidiadau i amserlen T5 rhwng Aberteifi a Hwlffordd o 6ed Ionawr 2025. Mae’r newidiadau yn rhai dros dro o ganlyniad i waith angenrheidiol i adnewyddu cwlfert ar yr A487 yn y Royal Oak, Casnewydd.
- Bydd amserlen dros dro yn ei lle o 6/1/25 am o leiaf 8 wythnos, oherwydd cau ffordd yng Nghasnewydd.
- Ni fydd bysus yn gallu defnyddio'r prif safle bws yng Nghasnewydd. Bydd safleoedd bws eraill ar gael yn Neuadd Goffa Casnewydd a'r Golden Lion.
- Oherwydd y llwybr dargyfeirio cul, bydd bws mini hygyrch i’r llawr isel yn cael ei ddarparu rhwng Abergwaun ac Aberteifi.
- Bydd rhaid i bob teithiwr newid yn Abergwaun er mwyn teithio ymlaen i Aberteifi i Hwlffordd.
Bydd y 07.45 o Hwlffordd yn dod i ben yn Abergwaun.