Problemau teithio

‘Long Course Weekend’, Sir Benfro – dydd Gwener 27 – dydd Sul 29 Mehefin 2025

O ganlyniad i’r digwyddiad ‘Long Course Weekend’ yn Sir Benfro o ddydd Gwener 27 i ddydd Sul 29 Mehefin 2025, mae’n debygol y bydd tarfu ar y gwasanaethau FirstCymru canlynol:

Dydd Gwener 27 Mehefin 2025

  • Mae’n bosib y bydd oedi ar y gwasanaethau 349, 356, 381 a’r gwasanaeth Tenby Coaster.

Dydd Sadwrn 28 Mehefin 2025

  • Bydd y gwasanaeth 349 yn gweithredu rhwng Hwlffordd a Phenfro yn unig. Gan fydd y system unffordd ar gau, bydd bysiau yn mynd o’r ‘Green’ i’r Dwyrain, drwy Holyland Road i Fynegbost, ac wedyn ar hyd y A477 cyn dychwelyd i Ddoc Penfro.
  • Bydd y gwasanaeth 356 yn terfynu ym Mhenfro ac yn defnyddio’r un llwybr â’r gwasanaeth 349 (uchod) er mwyn dychwelyd i Ddoc Penfro. Mae hyn yn meddwl ni fydd y gwasanaeth yn gallu gwasanaethu Cil-maen tan ar ôl tua 1330.
  • Caiff y gwasanaeth 381 ei ohirio am weddill y dydd. Mae hyn o ganlyniad i gyfnodau cau ar hyd y llwybr a does dim dargyfeiriad addas ar gael.
  • Caiff y gwasanaeth Tenby Coaster ei ohirio am weddill y dydd.

Dydd Sul 29 Mehefin 2025

Caiff y gwasanaeth Tenby Coaster ei dargyfeirio drwy’r A4218 (Broadwell Hayes) yn lle Marsh Road a Heywood Lane.

 

Yn ôl