Problemau teithio

Mae Ras Bae Caerdydd Brecon Carreg yn cael ei chynnal yng nghanol Bae hanesyddol Caerdydd, ac mae’n ras wastad, gyflym a chyfeillgar sy’n addas i bobl o bob oed a gallu.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Ras Bae Caerdydd yma.


Bws Caerdydd

Bydd Baycar yn dechrau/gorffen ei deithiau yn Neuadd y Sir, gan deithio i ganol y ddinas ac yn ôl ar hyd Schooner Way.

Bydd Gwasanaeth 8 yn dilyn y llwybr arferol hyd at Gei’r Fôr-forwyn lle bydd bysiau yn gorffen/dechrau eu taith (ni fydd yn teithio i Neuadd y Sir na Stryd Pen y Lanfa).

Mae’n flin gennym, ond ni fyddwn yn gallu gwasanaethu Canolfan Mileniwm Cymru yn ystod yr adegau hyn. Hoffem ymddiheuro os yw’r newid trefniadau hyn yn amharu ar eich taith.


Cau ffyrdd

Bydd y rhan fwyaf o’r ffyrdd a fydd yn cau ar gau rhwng 10am a 13.30pm, fodd bynnag bydd Cei Britannia ar gau o 6.00am.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau (ar hyd y ffordd gyfan):

  1. Plas Bute
  2. Cei Britannia
  3. Rhodfa’r Harbwr
  4. Rhodfa Lloyd George
  5. Porth Teigr Way
  6. Locks Road
  7. Stryd Pen y Lanfa, o’r gyffordd â Phlas Bute i’r gyffordd â Caspian Way/Falcon Drive

  • Cyffordd Stryd Bute â Stryd James - yn gwahardd mynediad tuag at y Flourish a Stryd Bute ei hun.
  • Stryd Pen y Lanfa o’r gyffordd â Falcon Drive / cyffordd Maes Parcio Wave.
  • Rhodfa Lloyd George o’r gyffordd â Stryd Herbert.
  • Heol Hemingway o’r gyffordd â Schooner Way.
  • Stryd Bute o’r gyffordd â Heol Hemingway (y ffordd rhwng Rhodfa Lloyd George a Stryd Bute).
  • Tyneside Road o’r gyffordd â Phorth Teigr Way.
Yn ôl