Gorymdaith RAF100. Dargyfeiriadau First Cymru. Dydd Sadwrn 21 Ebrill 2018
Bydd gorymdaith RAF100 yn digwydd yng nghanol dinas Abertawe ddydd Sadwrn 21 Ebrill rhwng 10:00 a 14:00.
Bydd llwybr yr orymdaith ar hyd Ffordd y Dywysoges, Whitewalls, Oxford Street, West Way (y gyffordd ag Oxford Street a Heol San Helen), Heol San Helen, Guildhall Road South a Francis Street.
Bydd ffyrdd yn cael eu cau yn eu tro ar hyd y llwybr, a disgwylir y bydd yr orymdaith yn para 30-45 munud.
- Ni fydd UNRHYW WASANAETHAU yn gweithredu drwy Sgwâr y Santes Fair, Caer Street a rhan isaf y Stryd Fawr rhwng 1030 a 1200.
- Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio 502 Ffordd Fabian yn defnyddio Wellington Street rhwng yr amseroedd dan sylw.
- Ni fydd gwasanaethau i gyfeiriad canol y ddinas (o’r Mwmbwls ac ati) yn defnyddio Heol San Helen rhwng 1100 a 1230. Byddant yn mynd ar hyd Heol Ystumllwynarth.
Caiff cwsmeriaid sydd am ddal bysiau yng nghanol y ddinas ddydd Sadwrn rhwng 1000 a 1300 eu cynghori i ddefnyddio Gorsaf Fysiau Dinas Abertawe yn hytrach na’r arosfannau sydd ar y strydoedd.