Ed Sheeran yn Stadiwm Prinicipality, Caerdydd. 21 – 24 Mehefin 2018. Cau Twnnel Hafren a dargyfeirio gwasanaethau trên.
Cofiwch y bydd Twnnel Hafren ar gau ar gyfer gwaith a gynlluniwyd i uwchraddio’r rheilffordd. Felly, bydd pob gwasanaeth pellter hir rhwng Llundain a Chaerdydd yn cael ei ddargyfeirio, a fydd yn ychwanegu 40 munud at hyd y daith, oherwydd ni fydd gwasanaethau’n galw yng ngorsaf Parkway Bryste.
Trenau Arriva Cymru
Mae Trenau Arriva Cymru yn dweud wrth ei gwsmeriaid bod disgwyl i orsaf Caerdydd Canolog fod yn eithriadol o brysur ar bob un o’r pedwar diwrnod.
Ar ôl y cyngherddau, dylai cefnogwyr ddefnyddio gorsaf Caerdydd Canolog lle bydd system giwio ar waith. Ni fydd modd mynd i mewn i orsaf Heol y Frenhines ar ôl 10pm, felly ni fydd modd i gwsmeriaid ddefnyddio gorsaf Heol y Frenhines ar ôl y cyngerdd.
Bydd cerbydau ychwanegol yn cael eu darparu os oes modd ond bydd llai o le ar y trenau ar ôl y cyngerdd, yn enwedig cyngerdd dydd Sul, a chaiff cwsmeriaid eu cynghori i gynllunio eu teithiau ymlaen llaw.
Great Western Railway
Mae Great Western Railway yn dweud wrth ei gwsmeriaid y bydd y gwaith a wneir i uwchraddio’r rheilffordd rhwng Bryste a Chasnewydd yn effeithio ar wasanaethau’n ôl ac ymlaen i dde Cymru.
O ganlyniad, bydd gwasanaethau GWR yn ôl ac ymlaen i Gaerdydd yn dilyn amserlen ddiwygiedig.
Rhaid i gwsmeriaid wirio amseroedd eu taith ymlaen llaw drwy fynd i www.nationalrail.co.uk.
Gwybodaeth am wasanaethau: I orsaf Caerdydd Canolog
- Bydd un trên yr awr o orsaf Paddington Llundain i orsaf Caerdydd Canolog, ac ni fydd y trên hwnnw’n galw yng ngorsaf Parkway Bryste (bydd y dargyfeiriad yn ychwanegu tua 40 munud at hyd arferol y daith);
- O Portsmouth/Taunton i orsaf Caerdydd Canolog, bydd y gwasanaethau trên yn gorffen yng ngorsaf Parkway Bryste yn lle gorsaf Caerdydd Canolog; bydd gwasanaeth bws yn gweithredu yn lle’r gwasanaeth trên rhwng gorsaf Parkway Bryste a Chasnewydd; bydd trenau’n gweithredu rhwng Casnewydd a gorsaf Caerdydd Canolog.
Gwybodaeth am wasanaethau: O orsaf Caerdydd Canolog ar ôl y cyngherddau
Ni fydd unrhyw drenau i orsaf Paddington Llundain.
Bydd bysiau’n gweithredu yn lle trenau o orsaf Caerdydd Canolog, a byddant yn mynd yn syth i orsaf Parkway Bryste a gorsaf Temple Meads Bryste.