Problemau teithio

Eleni, cynhelir y digwyddiad cenedlaethol hwn yn nhref lan môr hanesyddol Llandudno, yn y gogledd, ddydd Sadwrn 30 Mehefin 2018.

Mae gan y gogledd lawer o gysylltiadau â’r lluoedd arfog yn hanesyddol ac ar hyn o bryd, gan gynnwys nifer o unedau’r fyddin - yn rhai parhaol ac yn rhai wrth gefn. Bydd y digwyddiad cenedlaethol a gynhelir yn y dref yn gyfle gwych i bobl ar draws y DU ddod ynghyd i gydnabod gwaith caled ac aberth y sawl sy’n gwasanaethu gyda’r lluoedd arfog.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Diwrnod y Lluoedd Arfog yma.

 

Cau ffyrdd

Ar lwybr y parêd ar hyd y Promenâd, bydd y ffordd ar gau o 00:01 ymlaen ddydd Gwener 29 Mehefin. Bydd Cyngor Conwy yn gwneud ei oriau i ailagor y ffordd erbyn 23:59 ddydd Sadwrn 30 Mehefin.

Bydd maes parcio Canolfan Siopa Fictoria (LL30 2UU) yn cynnig gwasanaeth estynedig a fydd yn cynnwys yr hawl i barcio yno dros nos yn ystod penwythnos y digwyddiad. Yr amseroedd agor fydd 07:00 i 22:00 ddydd Gwener 29 Mehefin a dydd Sadwrn 30 Mehefin, a 07:00 i 18:00 ddydd Sul 1 Gorffennaf. Codir tâl o £5 y cerbyd am barcio dros nos.

Bydd tollffordd y Gogarth, Marine Drive ar gau rhwng 08.00 a 12.00 ddydd Sadwrn 30 Mehefin yn unig.

Bydd Clarence Crescent ar gau rhwng 07:00 a 22:00 ddydd Sadwrn 30 Mehefin yn unig.

Bydd Bodafon Road ar gau rhwng 07:00 a 22:00 ddydd Sadwrn 30 Mehefin yn unig. Parheir i ganiatáu mynediad ar gyfer preswylwyr Bodafon Road. 

Ewch i wefan Cyngor Conwy yma i gael rhagor o wybodaeth.


Trafnidiaeth gyhoeddus

Bydd Arriva yn darparu bysiau a cherbydau trên ychwanegol i mewn i Landudno ar gyfer y diwrnod, oherwydd rhagwelir y bydd llawer o bobl yn dod i’r digwyddiad.

Bydd Bysiau Arriva yn darparu gwasanaeth Parcio a Theithio o arosfannau bysiau cyfredol a safleoedd dros dro.

Bydd y bysiau gwennol yn gweithredu rhwng 07:00 a 21:30 ac yn teithio mewn cylch i mewn ac allan o Landudno. Bydd modd parcio am ddim, ond bydd y daith yn y bws yn costio £1 y pen bob ffordd (bydd plant dan 5 oed yn cael teithio am ddim). Bydd stiwardiaid ym mhob maes parcio, ond ni fydd neb yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddifrod neu golled a allai ddigwydd tra bydd eich car yn y maes parcio.

Caiff ymwelwyr eu hannog i ddilyn yr arwyddion i’r maes parcio agosaf, oherwydd bydd yr arwyddion traffig yn cael eu haddasu wrth i’r meysydd parcio lenwi. Bydd arwyddion clir i ddangos ble mae’r meysydd parcio ar gyfer pobl anabl. Os ydych yn teithio i Landudno mewn car ar y diwrnod, y ffordd gyflymaf o gyrraedd canol y dref fydd defnyddio’r bysiau Parcio a Theithio.

Yn ôl