Astudiaethau achos

Astudiaethau achos

Astudiaeth Achos Fideo Bws Casnewydd

Mae Noel Davies, cyn-Reolwr Marchnata Bws Casnewydd, yn sôn am sut y mae’r cwmni yn cydweithio’n agos â Traveline Cymru i sicrhau bod llawer o wybodaeth bwysig am deithio’n cael ei rhoi i’w gwsmeriaid.

Astudiaeth Achos Fideo Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Annie Lawrie, Swyddog Trafnidiaeth Ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn sôn am sut y mae’r Awdurdod yn cydweithio â Traveline Cymru i annog dulliau cynaliadwy o deithio ar gyfer twristiaid yn y Parc Cenedlaethol.

Astudiaeth Achos Fideo Working Links

Mae Amie Hall, Cydlynydd Partneriaeth a Darpariaethau Working Links yn y gogledd, yn sôn am y prosiect y mae’r cwmni yn ei gyflwyno ar draws Cymru. 

Astudiaeth Achos Fideo Virgin Media

Mae Michelle Beech, Rheolwr Safle Virgin Media ar Barc Menter Abertawe, yn sôn am yr amryw fentrau a ddefnyddir gan y cwmni er mwyn cynorthwyo ei weithwyr a darpar weithwyr i ganfod opsiynau ar gyfer teithio i’r gwaith.

Astudiaeth Achos Fideo Chwarae Teg

Mae Ann Elliot, Rheolwr Adnoddau Chwarae Teg, yn sôn am sut y mae’r busnes – sydd â safleoedd ym mhob rhan o Gymru – yn annog ei weithwyr i deithio’n gynaliadwy gan ddefnyddio trenau neu rannu ceir, er enghraifft, wrth deithio o’r naill safle i’r llall.

Astudiaeth Achos Fideo Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Mae Rhodri Davies, Rheolwr Cynllunio Gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, yn sôn am sut y mae’r Bwrdd Iechyd yn cydweithio’n agos â Traveline Cymru i ddarparu opsiynau teithio cynaliadwy i weithwyr, cleifion ac ymwelwyr ar draws pob un o safleoedd y Bwrdd Iechyd.

Astudiaeth Achos Fideo - Prifysgol Fetropolitan Caerdydd

Mae Neil Woollacott, Rheolwr Cynllun Teithio Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn esbonio sut y mae’r Brifysgol yn gweithio’n agos gyda Traveline Cymru i roi gwybodaeth i fyfyrwyr a staff er mwyn eu cynorthwyo i deithio’n ôl ac ymlaen i’r brifysgol a rhwng pob campws a neuadd breswyl.

Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Mae Prosiect Parc Rhanbarthol y Cymoedd (PRhC) yn fenter gyffrous a dynamig er mwyn cynllunio, cydlynu a chyflwyno gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd, treftadaeth a thwristiaeth ar draws Cymoedd De Cymru.

HSBC Direct Abertawe

HSBC Direct Abertawe yw un o gyflogwyr mwyaf Parc Menter Abertawe gan gyflogi dros 1,000 o staff ac yn cartrefu isafswm o 750 o bobl ar y safle’n ddyddiol.