Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud

Ffoniwch ni: 0800 464 00 00

Digwyddiadau

Latest Tweets

@TravelineCymru RT #A5 Braichmelyn(Bethesda) i Bont Penybenglog tua’r de rhannol ar gau. Traffig yn araf oherwydd damwain
@TravelineCymru RT #A5 Braichmelyn (Bethesda) to Pont Pen-y-benglog Southbound partially blocked. Slow traffic following accident
@TravelineCymru RT #NorthBristol: Due to the closure of Canford Lane in Westbury-on-Trym for resurfacing on Monday 20th May and betwee… https://t.co/lfMXpSDZjD
@TravelineCymru RT #ForestOfDean: Due to the closure of the B4234 Mireystock to Upper Lydbrook on Monday 20th May 2019 and from 07:00… https://t.co/VWtHA0Nxqb
@TravelineCymru RT #Cheltenham: Due to the closure of the A4019 between Uckington and Coombe Hill from 15th May until 11th June and… https://t.co/SJuw55lqIl
Llun: https://www.principalitystadium.wales/

Cymru v Sbaen, Stadiwm Principality – Dydd Iau 11 Hydref

Y gic gyntaf: 19:45

Hwn fydd y tro cyntaf i Ryan Giggs ddychwelyd i Stadiwm Principality ers iddo chwarae yma bron 8 mlynedd yn ôl. Hwn hefyd fydd y tro cyntaf i’r ddau dîm yma gwrdd ers 1985.

Gyda chwaraewyr fel Gareth Bale a Sergio Ramos yn camu i’r cae, mae’n gêm na ddylai neb ei cholli.

 

Ydych chi am deithio i’r digwyddiad hwn?

Isod, fe welwch chi rai dolenni cyswllt defnyddiol i’ch helpu i ddechrau cynllunio eich taith i’r digwyddiad. Gall defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yr ardal fod yn ffordd wych o gyrraedd y ddinas a’ch arbed rhag gorfod poeni am ddod â’r car.

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.

Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.

 

Cerdded a beicio

Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er  mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.

 

Rhannu car

Os ydych yn ystyried gyrru i ddigwyddiad, gallwch rannu eich taith â phobl eraill drwy fewngofnodi i Share Cymru. Ar y wefan hon, gallwch ddewis cynnig lifft neu ofyn am lifft a gallwch ddod o hyd i rywun arall sy’n teithio i’r un man â chi.

 

Cliciwch yma i gael gwybod pa broblemau teithio y bydd y digwyddiad yn eu hachosi.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: https://www.principalitystadium.wales/event/wales-v-spain/

< Pob digwyddiad