Caiff gŵyl flynyddol y Gelli ei chynnal yn nhref farchnad fach y Gelli, sef Tref Lyfrau Genedlaethol Cymru. Mae’r ŵyl hon yn dathlu pob agwedd ar ddarllen, ysgrifennu ac adrodd straeon gyda chymorth dros 600 o awduron, perfformwyr ac arloeswyr amlycaf y byd.
Yn ystod yr ŵyl, sy’n para 11 diwrnod o 23 Mai i 2 Mehefin, bydd 800 o ddigwyddiadau gwych yn cael eu cynnal i ymwelwyr ymgolli ynddynt. Dyma ddetholiad bach o’r arlwy:
Mae rhaglen ychwanegol dan yr enw ‘Haydays’ yn cynnwys digwyddiadau i blant a theuluoedd eu mwynhau gyda’i gilydd. Mae’n rhaid i rieni neu ofalwyr fynd i weithdai gyda phlant 8 oed neu iau, ond nid oes angen tocyn arnynt. Gallwch hefyd dretio’r plant (neu chi eich hun) i rai o’r bwydydd a’rdiodydd blasus a fydd ar werth ar stondinau o amgylch maes yr ŵyl. Yma, gallwch hefyd bori trwy amrywiaeth hyfryd o anrhegion a wnaed â llaw, hen ddillad, gemwaith, gwaith celf a chrefft a llawer mwy!
Ewch i wefan Gŵyl y Gelli i weld y rhaglen lawn o ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal trwy gydol yr ŵyl, ac i brynu eich tocynnau.
Ydych chi am deithio i’r digwyddiad hwn?
Mae gwasanaeth T14 TrawsCymru yn aros bellter byr o faes yr ŵyl. Mae’r ŵyl hefyd yn cynnig gwasanaeth parcio a theithio ac mae manylion y gwasanaeth hwnnw i’w gweld yma.
Isod, fe welwch chi rai dolenni cyswllt defnyddiol i’ch helpu i ddechrau cynllunio eich taith i’r digwyddiad. Gall defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yr ardal fod yn ffordd wych o gyrraedd y ddinas a’ch arbed rhag gorfod poeni am ddod â’r car.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.
Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.
Cerdded a beicio
Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.
Rydym yn cynnig gwasanaeth rhadffôn hefyd. Bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am drafnidiaeth gyhoeddus ac i’ch helpu i gynllunio eich taith. Ffoniwch ni ar 0800 464 00 00 yn rhad ac am ddim!