*Following updated public health guidance, it has been decided that the Ice Walk attraction will remain closed.
O ddydd Iau 12 Tachwedd tan ddydd Sul 3 Ionawr, Castell Caerdydd fydd yn cael y lle blaenaf wrth i ymwelwyr gael cyfle i fwynhau ‘Nadolig yn y Castell’ mewn amgylchedd diogel o ran Covid, lle bydd pawb yn gallu cadw pellter cymdeithasol.
Bydd hen ffefrynnau Gŵyl y Gaeaf yno, gan gynnwys yr Olwyn Fawr eiconig (a fydd yn cynnig golygfeydd godidog o’r ddinas i chi), reidiau difyr i’r teulu, a bar y Caban Sgïo o’r Alpau. Bydd teithiau traddodiadol Siôn Corn o Oes Fictoria yn cael eu cynnal hefyd, a fydd yn ei gwneud yn bosibl i’ch plant bach weld y dyn ei hun yng nghwmni eich teulu chi’n unig!
Bydd pob un o’r ardaloedd bwyta ac yfed, gan gynnwys ‘Profiad Parhau i Fwyta Allan’ y Castell, yn glynu wrth ganllawiau llym ynghylch iechyd a diogelwch fel eich bod yn gallu mwynhau danteithion melys a bwydydd a diodydd traddodiadol eraill y Nadolig yn ddiogel.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi aros i fynd i mewn i dir y Castell yn ystod cyfnodau prysur, felly caiff ymwelwyr eu hannog i ymweld yn ystod cyfnodau tawelach er mwyn helpu pawb i gadw pellter cymdeithasol.
I gael gwybod mwy am yr holl weithgareddau gwych a fydd yn digwydd y Nadolig hwn yng Nghastell Caerdydd ac i archebu eich profiad preifat o Daith Siôn Corn o Oes Fictoria, ewch i wefan Castell Caerdydd.
Rydym yn dal yma i ddarparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ar eich cyfer os oes angen i chi deithio: