Bydd P!nk, sydd wedi ennill gwobrau Grammy, BRIT a Daytime Emmy, yn dod i Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ar 20 Mehefin i berfformio yn ei sioe gyntaf o bump mewn amryw stadia yn y DU.
Mae P!nk wedi gwerthu dros 90 miliwn o recordiau ledled y byd, mae 20 o’i chaneuon wedi cyrraedd y 10 uchaf yn siart y DU, ac mae wedi treulio cyfanswm o 293 o wythnosau yn siart 40 uchaf y DU. Dringodd ei recordiau llwyddiannus Lady Marmalade (o’r ffilm Moulin Rouge!), Just Like a Pill a So What i frig siart senglau’r DU yn 2001, 2002 a 2008.
Mae P!nk yn adnabyddus am ei llais hynod a chryglyd yn ogystal â’i pherfformiadau acrobatig unigryw ar y llwyfan. Hwn fydd y tro cyntaf iddi berfformio yn y DU ers ei pherfformiad fel prif artist yng Ngŵyl V yn 2017, a gafodd ei ganmol gan y beirniaid. Hwn hefyd fydd y tro cyntaf iddi deithio ar ei phen ei hun yn y DU ers 2013.
Bydd y sioe yn dechrau am 17:30 a bydd yn cynnwys Vance Joy, KidCutUp a Bang Bang Romeo fel artistiaid ategol. Dewch i fwynhau’r parti!
Ewch i wefan Stadiwm Principality i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a phrynu eich tocynnau.
Ydych chi am deithio i’r digwyddiad hwn?
Gorsaf Caerdydd Canolog yw’r orsaf drenau agosaf i’r Stadiwm (mae’r ochr arall i’r ffordd) ac mae’n gweithredu nifer o wasanaethau’r brif reilffordd. Ceir gwasanaethau hefyd sy’n cysylltu gorsaf Caerdydd Canolog â Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd, sy’n gweithredu gwasanaethau rheilffyrdd lleol o bob rhan o Gaerdydd a Chymoedd y De.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.
Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.
Cerdded a beicio
Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.
Rydym yn cynnig gwasanaeth rhadffôn hefyd. Bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am drafnidiaeth gyhoeddus ac i’ch helpu i gynllunio eich taith. Ffoniwch ni ar 0800 464 00 00 yn rhad ac am ddim!