Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud

Ffoniwch ni: 0800 464 00 00

Digwyddiadau

Latest Tweets

@TravelineCymru RT #Caerphilly and Blackwood service update : All services towards Caerphilly town will divert via Bedwas Road tonight… https://t.co/Oga78ffReh
@TravelineCymru RT #Caerphilly & Blackwood service update : Due to the ongoing road works in Caerphilly we have diversion in place aga… https://t.co/Qp9pdAXhAK
@TravelineCymru RT Service update: 88 town service - 1630 ex High St, Welshpool is running at least 20 mins late. This is due to a tec… https://t.co/SUIrUvhdzt
@TravelineCymru RT #Blackwood service update: Due to a technical issue the 16:00 R1 service #Newport to #Pontymister is currently not operating
@TravelineCymru Mae’r gwanwyn wedi dod! Wrth i’r tywydd wella beth am geisio gwneud ambell daith ar gefn eich beic? Mae ein cynllun… https://t.co/1Gkf4QJhSF
Adrian Dennis/AFP/Getty Images

Pencampwriaeth y 6 Gwlad 2019: Cymru v Lloegr yn Stadiwm Principality – Dydd Sadwrn 23 Chwefror 2019

Y gic gyntaf: 16:45

Yn nhrydedd rownd Pencampwriaeth y 6 Gwlad 2019 bydd Cymru yn herio’r hen elyn, Lloegr, yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 23 Chwefror. Heb os, mae’r hen elyniaeth rhwng y ddau dîm yn golygu na fydd yr un cefnogwr rygbi am golli’r gêm hon.

Mae Lloegr wedi ennill cyfanswm o 62 o gemau yn ystod y 138 o flynyddoedd sydd wedi pasio ers i’r ddau dîm herio ei gilydd am y tro cyntaf. Mae hynny ychydig yn fwy na 57 buddugoliaeth y Cymry. Yn fwyaf diweddar, llwyddodd Lloegr i guro Cymru gyda sgôr o 12-6 yn Twickenham yn ystod Pencampwriaeth y 6 Gwlad 2018, diolch i ddau gais cynnar gan Jonny May.

Fodd bynnag, ar ôl gorffen yn ail yn y Bencampwriaeth y llynedd y tu ôl i’r pencampwyr presennol, sef Iwerddon, mae’n siŵr y bydd tipyn o dân ym moliau’r Cymry yn eu gêm gyntaf ar eu tomen eu hunain ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad 2019.

 

Gallwch gael gwybod mwy am y gêm ar wefan y digwyddiad.

 

Er mwyn eich helpu i deithio o amgylch Caerdydd ar ddiwrnod gêm (p’un a ydych yn teithio i’r Stadiwm neu’n gwylio’r gêm yn y ddinas gyda’ch ffrindiau) rydym wedi creu Canllaw Teithio ar gyfer Pencampwriaeth y 6 Gwlad. Cofiwch ei ddarllen os hoffech wybod mwy!

 

Ydych chi am deithio i’r digwyddiad hwn?

Mae disgwyl y bydd problemau teithio difrifol ar ddiwrnodau pob un o gemau’r gyfres. Yn ogystal, disgwylir i wasanaethau fod yn brysur iawn a cheir rhai gwasanaethau cyfyngedig.

Byddwn yn diweddaru ein tudalen am broblemau teithio yn ystod Pencampwriaeth y 6 Gwlad wrth i wybodaeth ddod i law gan weithredwyr.

Isod, fe welwch chi rai dolenni cyswllt defnyddiol i’ch helpu i ddechrau cynllunio eich taith i’r digwyddiad. Gall defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yr ardal fod yn ffordd wych o gyrraedd y ddinas a’ch arbed rhag gorfod poeni am ddod â’r car.

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.

Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.

 

Cerdded a beicio

Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er  mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.

 

Rhannu car

Os ydych yn ystyried gyrru i ddigwyddiad, gallwch rannu eich taith â phobl eraill drwy fewngofnodi i Share Cymru. Ar y wefan hon, gallwch ddewis cynnig lifft neu ofyn am lifft a gallwch ddod o hyd i rywun arall sy’n teithio i’r un man â chi.

< Pob digwyddiad