Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Digwyddiadau

Latest Tweets

@TravelineCymru RT ⚠️ NEW - Disruption to / from London Paddington expected until 20:30 https://t.co/uPGFR1g0Y5
@TravelineCymru RT ✅ CLEARED - Trains are now able to call at #Grangetown following disruption caused by the emergency services dealing with an incident
@TravelineCymru RT Current travel times through the roadworks on the #A55 between J22 Old Colwyn and J23 Llanddulas Westbound: 14 min… https://t.co/Iffw4xwq3V
@TravelineCymru RT Diweddariad: Cerbydau yn gallu mynd pasio ar y lon. Dim manylion pellach ar hyn o bryd. https://t.co/IpmzUCN76M
@TravelineCymru RT ⚠️ NEW - Transport for Wales services are currently unable to call at #Grangetown due to the emergency services dealing with an incident
Charles McQuillan/Getty Images

Pencampwriaeth y 6 Gwlad 2019: Cymru v Iwerddon yn Stadiwm Principality – Dydd Sadwrn 16 Mawrth 2019

Y gic gyntaf: 14:45

Ddydd Sadwrn 16 Mawrth (diwrnod olaf Pencampwriaeth y 6 Gwlad 2019) bydd Cymru yn herio Iwerddon, sef y pencampwyr presennol, yn Stadiwm Principality.

Mae’r ddwy wlad wedi chwarae cyfanswm o 126 o gemau yn erbyn ei gilydd ers 1882, gyda Chymru yn ennill 68 gêm, Iwerddon yn ennill 51, a saith gêm yn gyfartal. Fodd bynnag, Iwerddon oedd yn fuddugol gyda sgôr o 37-27 pan gyfarfu’r ddau dîm ddiwethaf ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad yn 2018.

Gorffennodd Iwerddon Bencampwriaeth 2018 naw pwynt ar y blaen i Gymru a oedd yn yr ail safle, felly mae’n siŵr y bydd chwaraewyr Cymru yn awyddus i brofi pwynt yn ystod y gêm olaf hon ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad 2019.

 

Gallwch gael gwybod mwy am y gêm ar wefan y digwyddiad.

 

Er mwyn eich helpu i deithio o amgylch Caerdydd ar ddiwrnod gêm (p’un a ydych yn teithio i’r Stadiwm neu’n gwylio’r gêm yn y ddinas gyda’ch ffrindiau) rydym wedi creu Canllaw Teithio ar gyfer Pencampwriaeth y 6 Gwlad. Cofiwch ei ddarllen os hoffech wybod mwy!

 

Ydych chi am deithio i’r digwyddiad hwn?

Mae disgwyl y bydd problemau teithio difrifol ar ddiwrnodau pob un o gemau’r gyfres. Yn ogystal, disgwylir i wasanaethau fod yn brysur iawn a cheir rhai gwasanaethau cyfyngedig.

Byddwn yn diweddaru ein tudalen am broblemau teithio yn ystod Pencampwriaeth y 6 Gwlad wrth i wybodaeth ddod i law gan weithredwyr.

Isod, fe welwch chi rai dolenni cyswllt defnyddiol i’ch helpu i ddechrau cynllunio eich taith i’r digwyddiad. Gall defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yr ardal fod yn ffordd wych o gyrraedd y ddinas a’ch arbed rhag gorfod poeni am ddod â’r car.

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.

Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.

 

Cerdded a beicio

Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er  mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.

 

Rhannu car

Os ydych yn ystyried gyrru i ddigwyddiad, gallwch rannu eich taith â phobl eraill drwy fewngofnodi i Share Cymru. Ar y wefan hon, gallwch ddewis cynnig lifft neu ofyn am lifft a gallwch ddod o hyd i rywun arall sy’n teithio i’r un man â chi.

< Pob digwyddiad