
Pencampwriaeth y 6 Gwlad: Cymru yn erbyn yr Alban yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 12 Chwefror 2022
Y gic gyntaf am 14:15
Llwyddodd Cymru i sicrhau buddugoliaeth o drwch blewyn (25-24) dros yr Alban yn ystod Pencampwriaeth 2021, ym Murrayfield, felly mae’n siŵr y bydd y gêm hon y mae pawb yn edrych ymlaen ati yn ornest agos arall.
Mae Cymru a’r Alban wedi chwarae yn erbyn ei gilydd mewn 127 o gemau prawf ers iddynt gyfarfod gyntaf yn 1883. Cymru oedd yn fuddugol yn 74 o’r gemau hynny, ac mae’r Alban wedi ennill 50 ohonynt. Cafwyd tair gêm gyfartal rhwng y ddwy wlad hefyd.
Bydd angen i bawb a fydd yn mynd i’r gêm hon ddarparu ffurflen wedi’i chymeradwyo gan y llywodraeth (Pàs Covid) fel prawf eu bod wedi cael dau frechiad neu, yn achos y sawl nad ydynt wedi cael dau frechiad, prawf eu bod wedi cael Prawf Llif Unffordd (LFT) negatif yn ystod y 48 awr cyn y digwyddiad.
Os bydd angen i chi hunanynysu ar ddiwrnod y gêm oherwydd eich bod wedi cael prawf Covid-19 positif, bydd gwerth y tocyn (y swm sydd ar y tocyn) yn cael ei ad-dalu i chi cyn pen 30 diwrnod ar ôl i dystiolaeth o brawf positif gael ei hanfon drwy ebost i customercare@wru.wales.
Ewch i wefan Stadiwm Principality i weld y canllawiau diogelwch ynghylch Covid-19 yn llawn.
Fyddwch chi’n teithio i’r gêm?
Nodwch fod yn rhaid gwisgo gorchudd wyneb ar bob gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Disgwylir y bydd pob gwasanaeth trafnidiaeth yn brysur tu hwnt, felly mae’n bosibl na fydd modd cadw pellter cymdeithasol.
Ar y bws
Os byddwch yn teithio i’r gêm, nodwch (am resymau diogelwch) y bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau. Mae hynny’n golygu y bydd angen i wasanaethau bws gael eu dargyfeirio a defnyddio arosfannau gwahanol. Mae’r manylion llawn i’w gweld ar ein tudalen problemau teithio.
Oherwydd bod disgwyl i nifer fawr o bobl fynychu’r gêm hon, ac oherwydd gwaith ffordd ar yr M4, rhagwelir y bydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn brysur tu hwnt. Dylech ddarllen ein blog Teithio’n Ddiogel adeg Pencampwriaeth y 6 Gwlad i gael rhagor o arweiniad.
Os oes angen rhagor o help arnoch i gynllunio eich taith gallwch ffonio ein rhif Rhadffôn, sef 0800 464 00 00, bob dydd rhwng 7am ac 8pm.
Ar y trên
Mae digwyddiadau mawr yn Stadiwm Principality yn golygu y bydd degau o filoedd yn rhagor o gwsmeriaid yn teithio ar wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Bydd pob gwasanaeth i Gaerdydd ac yn ôl ar y diwrnodau hyn yn brysur tu hwnt, a dim ond lle i sefyll fydd arnynt yn aml. Ni fydd modd cadw pellter cymdeithasol ar wasanaethau.
Bydd yn dal yn ofynnol yn ôl y gyfraith yng Nghymru i chi wisgo gorchudd wyneb, ac mae cyfrifoldeb personol ar gwsmeriaid i wisgo gorchudd wyneb pan fyddant yn teithio ar wasanaethau a phan fyddant mewn gorsafoedd caeëdig, oni bai eu bod wedi’u heithrio.
Nodwch:
- Gallwch weld pa mor brysur yw gwasanaeth trên cyn i chi fynd arno, drwy ddefnyddio Gwiriwr Capasiti Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.
- Rhaid i chi brynu eich tocyn cyn mynd ar y trên. Gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio ap Trafnidiaeth Cymru.
- Ar ôl y gêm, bydd system giwio ar waith yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd cyfyngiadau ar nifer y teithwyr a fydd yn cael mynd ar wasanaethau o ganol y ddinas, felly byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda.
Ffynhonnell y wybodaeth: Canllaw i Bencampwriaeth y 6 Gwlad